Gall sefydliadau twristiaeth wneud mwy o arian drwy werthu cynhyrchion a gwasanaethau ychwanegol. Un enghraifft dda o hyn yw cwmnïau hedfan, sy’n aml yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau ychwanegol am gost ychwanegol.
Gan amlaf, mae’r rhyngweithio rhwng y cwsmer a sefydliadau twristiaeth fel cwmnïau hedfan yn digwydd bellach drwy wefan, ond yr un yw’r syniad o hyd, sef gwerthu eitemau ychwanegol i gynyddu refeniw.
Gweithgaredd 1
Mae Sam yn teithio i Barcelona i dreulio penwythnos gyda’i ffrind. Gall ymdopi ag un bag caban ac nid oes angen yswiriant arni ac nid yw wedi cadw ei sedd, ac ni fydd angen pryd bwyd arni.
Gweithgaredd 2
Mae Mr a Mrs Kahn yn teithio i Barcelona am gyfarfod busnes. Maent wedi cadw seddi premiwm, mae ganddynt un bag howld yr un, maent wedi cael yswiriant a byddant yn bwyta pryd bwyd ar y ddwy siwrnai.
Gweithgaredd 3
Mae Greg a Sharon ar eu ffordd i Barcelona am ychydig ddiwrnodau. Gallant ymdopi â thri bag caban rhyngddynt ac maent wedi cadw sedd yr un ar gyfer y ddwy siwrnai. Nid oes angen yswiriant na phrydau bwyd arnynt.
Gweithgaredd 4
Mae George a Sheila Smith a’u ffrindiau Tony a Janet Headley wrth eu bodd yn chwarae golff. Maen nhw i gyd yn mynd â’u clybiau golff i Barcelona. Mae angen arnynt hefyd un bag howld yr un. Maen nhw wedi cadw eu seddi ond nid oes angen yswiriant arnynt na phrydau bwyd wrth hedfan.
Gweithgaredd 5
Mae’r teulu Griffiths, sef Mam a dau o blant, yn treulio’r gwyliau hanner tymor yn Barcelona. Mae Mam wedi archebu lle i fag howld iddi’i hun a bydd gan ei dau o blant fag caban ychwanegol yr un. Maent wedi cadw eu seddi ar gyfer pob siwrnai er mwyn bod yn siŵr o eistedd gyda’i gilydd.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U1-1.2-Adnodd3.docx