Ar ôl gweld mor bwysig yw hi i dywysydd teithiau proffesiynol feddu ar wybodaeth ardderchog am gynnyrch, beth am weld a allwch chi gyflwyno gwybodaeth am rywle rydych yn ei adnabod yn dda.
Gweithgaredd
Dewiswch ardal neu atyniad rydych yn ei adnabod yn dda.
Ymchwiliwch i’r ardal neu atyniad cystal ag y gallwch, wedyn gweld a allwch siarad amdano am ddwy funud. Gallech siarad â ffrind neu’r dosbarth cyfan.
Gallech gofnodi eich sgwrs neu gyflwyniad.
Gallech hefyd weld a oes gennych ‘sgiliau gwerthu’ a pherswadio eich cyd-ddisgyblion i ymweld â’r ardal neu atyniad.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U1-2.2-Adnodd7.docx