Gweithgaredd
Dewiswch ardal neu atyniad rydych yn ei adnabod yn dda.
Ymchwiliwch i’r ardal neu atyniad cystal ag y gallwch, wedyn gweld a allwch siarad amdano am ddwy funud. Gallech siarad â ffrind neu’r dosbarth cyfan.
Gallech gofnodi eich sgwrs neu gyflwyniad.
Gallech hefyd weld a oes gennych ‘sgiliau gwerthu’ a pherswadio eich cyd-ddisgyblion i ymweld â’r ardal neu atyniad.