Llwyddo ym maes ‘Profiad y Cwsmer’

MPA 1.2 Sefyllfaoedd pan fydd cwsmeriaid yn rhyngweithio â sefydliadau twristiaeth

Cyngor cadarn

Mae llawer o sefyllfaoedd lle bydd cwsmeriaid yn gofyn i staff sefydliad twristiaeth am gyngor. Gallai hwn fod yn gyngor gweddol syml fel rhoi cyfarwyddiadau neu awgrymu llwybrau. Mae angen i bobl sy’n gweithio mewn sefydliadau twristiaeth fod yn ymwybodol o’r mathau o gwestiynau y mae cwsmeriaid yn debygol o’u gofyn. 

Gallai hwn fod yn gyngor eithaf syml, fel yr amserau gorau i weld anifeiliaid yn cael eu bwydo mewn sw, neu gallai fod yn llawer pwysicach ac effeithio ar ddiogelwch cwsmeriaid. Er enghraifft, dylai trefnyddion teithiau gynghori cwsmeriaid ar y sefyllfa ddiogelwch mewn cyrchfannau yr ystyriant ymweld â hwy.

Mewn llawer o sefydliadau twristiaeth, bydd cyflogeion a fydd yn siarad â chwsmeriaid yn rheolaidd ac wedi arfer â rhoi cyngor. Gadewch i ni alw hwn yn gyngor ffurfiol.

Ar yr un pryd, efallai bydd cwsmeriaid yn gofyn am gyngor gan gyflogeion nad oes disgwyl iddynt ymdrin â chwsmeriaid yn eu swydd. Fodd bynnag, bydd disgwyl o hyd iddynt fod â gwybodaeth dda am y sefydliad o leiaf a rhoi cyngor cywir i gwsmeriaid, neu o leiaf cyfeirio’r cwsmer at rywun a all roi’r cyngor cywir. Byddwn yn galw hwn yn gyngor anffurfiol.

Mae sefydliadau twristiaeth yn rhoi gwasanaeth cwsmeriaid da pan all eu holl gyflogeion roi cyngor defnyddiol i gwsmeriaid.

Gweithgaredd

Mae’r gweithgaredd isod yn cynnwys nifer o sefyllfaoedd lle gall cwsmeriaid ofyn am gyngor. Penderfynwch drosoch chi’ch hun a fyddai’r sefyllfa’n cyfrif fel cyngor ffurfiol neu anffurfiol.