Wrth ymdrin â chwyn, dylech gofio’r rheolau canlynol:
- Gwrando’n ofalus ar y cwsmer a nodi gwybodaeth bwysig
- Peidio â thorri ar draws y cwsmer, dadlau na gwneud esgusodion
- Cydymdeimlo a dangos eich bod yn ymboeni am sefyllfa’r cwsmer
- Ceisio datrys y broblem yn syth
- Os nad ydych yn gallu datrys y broblem ar unwaith, addo i’r cwsmer y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i’r gŵyn
- Ymchwilio i’r gŵyn wedyn a chymryd camau priodol
- Sicrhau bod gennych holl fanylion personol perthnasol y cwsmer er mwyn gallu cysylltu ag ef
- Sicrhau bod ffurflen gwyno’r cwmni wedi’i llenwi’n gywir
- Os teimlwch nad ydych yn gallu ymdrin â’r gŵyn, cysylltu â rheolwr ar unwaith