Fel y gwelsom mewn gweithgareddau eraill, mae’r berthynas rhwng cwsmeriaid a chyflogeion sefydliadau twristiaeth yn amrywio’n helaeth, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau.
Gall pob cwsmer ddisgwyl i sefydliad ei drin yn gwrtais a bodloni ei anghenion. Yn aml, efallai mai dim ond am amser byr iawn y bydd cyflogai’n rhyngweithio â chwsmer.
Fodd bynnag, mewn sefyllfaoedd eraill, gall perthynas rhwng cyflogai a chwsmer ddatblygu dros gyfnod llawer hwy. Efallai bydd pobl sy’n gwsmeriaid rheolaidd i sefydliadau twristiaeth a hwythau, er enghraifft, yn perthyn i gynllun aelodaeth efallai, yn disgwyl mwy o’r gwasanaeth a gânt.