Llwyddo ym maes ‘Profiad y Cwsmer’

MPA 2.2 Eglurwch sut mae sefydliadau twristiaeth yn bodloni disgwyliadau gwahanol fathau o gwsmer

Perthynas â’r cwsmer

Fel y gwelsom mewn gweithgareddau eraill, mae’r berthynas rhwng cwsmeriaid a chyflogeion sefydliadau twristiaeth yn amrywio’n helaeth, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau.

Gall pob cwsmer ddisgwyl i sefydliad ei drin yn gwrtais a bodloni ei anghenion. Yn aml, efallai mai dim ond am amser byr iawn y bydd cyflogai’n rhyngweithio â chwsmer.            

Fodd bynnag, mewn sefyllfaoedd eraill, gall perthynas rhwng cyflogai a chwsmer ddatblygu dros gyfnod llawer hwy. Efallai bydd pobl sy’n gwsmeriaid rheolaidd i sefydliadau twristiaeth a hwythau, er enghraifft, yn perthyn i gynllun aelodaeth efallai, yn disgwyl mwy o’r gwasanaeth a gânt.                        

Gweithgaredd

Yn y tabl isod, mae 10 peth y gallai cyflogai ofyn amdanynt neu sôn amdanynt wrth gwsmer rheolaidd sefydliad. Ar gyfer pob un o’r 10 datganiad, rhowch sgôr allan o 5 ar gyfer pa mor bwysig y gallai fod i’r cwsmer.       

Pan fyddwch wedi gwneud eich penderfyniadau, trafodwch eich atebion gyda’ch cyd-ddisgyblion.

  • Cyfarch y cwsmer yn briodol.
  • Rhoi gwybod iddo am unrhyw broblemau ar y dydd.
  • Ei atgoffa am fuddion y cynllun aelodaeth neu’r cynllun cerdyn ffyddlondeb y mae’n aelod ohono.
  • Gofyn iddo a hoffai archebu gwasanaethau ychwanegol.
  • Ei adnabod a’i gyfarch yn ôl ei enw.
  • Gofyn iddo beth yw ei gynlluniau am ei ymweliad/ arhosiad.
  • Rhoi gwybod iddo am unrhyw gynigion neu wasanaethau newydd.
  • Gofyn sut hwyl sydd arno.
  • Holi am ei ffrindiau neu deulu.
  • Holi a hoffai ddiweddaru neu adnewyddu ei aelodaeth.