Dull Cyflwyno

Y Cyflwyniad

Yn amlwg, teitl eich adroddiad fydd ‘Ansawdd Profiad y Cwsmer yn _______’ (gan ychwanegu enw’r sefydliad yr ydych yn llunio adroddiad amdano).

Dim ond rhyw dudalen o gyflwyniad y bydd angen i chi ei lunio, felly bydd angen i chi ystyried beth i’w gynnwys.

Mae’r tabl isod yn cynnwys syniadau am wybodaeth am eich sefydliad y mae’n rhaid ei chynnwys yn eich cyflwyniad, gwybodaeth y dylid ei chynnwys, gwybodaeth y gellid ei chynnwys, a gwybodaeth nad oes angen ei chynnwys.