Llwyddo ym maes ‘Profiad y Cwsmer’

MPA 3.2, 3.3, 3.4

Y Cyflwyniad

Yn amlwg, teitl eich adroddiad fydd ‘Ansawdd Profiad y Cwsmer yn _______’ (gan ychwanegu enw’r sefydliad yr ydych yn llunio adroddiad amdano).

Dim ond rhyw dudalen o gyflwyniad y bydd angen i chi ei lunio, felly bydd angen i chi ystyried beth i’w gynnwys.

Mae’r tabl isod yn cynnwys syniadau am wybodaeth am eich sefydliad y mae’n rhaid ei chynnwys yn eich cyflwyniad, gwybodaeth y dylid ei chynnwys, gwybodaeth y gellid ei chynnwys, a gwybodaeth nad oes angen ei chynnwys.                      

Symudwch y teils o gwmpas i gael yr wybodaeth gywir ar bob un o’r pedair rhes.

introduction cym

Efallai byddwch yn cytuno neu’n anghytuno â’r wybodaeth a ddylai fynd ar bob rhes. Gallwch drafod eich penderfyniadau gyda’ch cyd-ddisgyblion.