Ar ôl casglu amrywiaeth o ddata ansoddol a meintiol o’ch ymchwil cynradd ac eilaidd, mae angen yn awr i chi lunio adroddiad am eich canfyddiadau.
Bydd eich adroddiad wedi’i rannu’n nifer o adrannau:
- Yn gyntaf bydd angen i chi lunio cyflwyniad i’ch sefydliad.
- Bydd angen i chi ddangos eich bod wedi prosesu'r data a gasglwyd gennych. Cofiwch y gall y data fod yn ansoddol neu’n feintiol.
- Bydd angen i chi gyflwyno eich data gan ddefnyddio tablau, graffiau a thechnegau eraill.
- Bydd angen i chi ddadansoddi eich data, sef dweud yr hyn y mae’r data yn ei ddangos.
- Bydd angen hefyd i chi ddehongli eich data, sef dweud yr hyn y mae eich data yn ei olygu.
- Bydd angen hefyd i chi lunio casgliadau am ansawdd profiad y cwsmer a roddir gan eich sefydliad dewisol.
- Yn olaf, dylech gynnwys atodiad, a ddylai gynnwys samplau o’r holiaduron, rhestri gwirio cwsmer cudd a chyfweliadau a gynhaliwyd gennych.
Yr adroddiad hwn fydd y darn terfynol o waith i’r uned hon. Sicrhewch eich bod yn dangos yr hyn a ddeallwch am ansawdd profiad y cwsmer yn eich sefydliad twristiaeth dewisol, a’ch bod yn llunio darn o waith y gallwch fod yn falch ohono.