Ar ôl i chi ymweld â’ch sefydliad dewisol a chasglu gwybodaeth gan ddefnyddio offer ymchwil, mae angen i chi ystyried sut mae cyflwyno’ch data. Mae’n ddigon posibl y bydd angen i chi wneud rhywfaint o waith ychwanegol i brosesu’r data crai fel y gellir ei gyflwyno’n briodol.
Mae llawer o ffyrdd y gallwch gyflwyno eich data. Cofiwch y gallai eich data gynnwys gwybodaeth feintiol ac ansoddol.
Ceir isod dabl o restr o dechnegau a thermau a ddefnyddir i gyflwyno data. Efallai wir y byddwch yn gwybod am rai ohonynt.
Gweithgaredd 1
Er mwyn eich helpu i benderfynu pa ddulliau cyflwyno data i’w defnyddio, llenwch y tabl ac ystyriwch pa rai fyddai’r rhai gorau i chi eu defnyddio. Efallai bydd angen i chi wneud ychydig o ymchwil i’ch helpu i ddeall rhai o’r termau.
Gweithgaredd 2
Mae nifer o raglenni cyfrifiadur y gellir eu defnyddio i gyflwyno data. Gallai’r rhain fod yn briodol i’w defnyddio. Ymchwiliwch i’r rhaglenni hyn a phenderfynwch a allent fod yn ddefnyddiol i’ch cyflwyniad chi. Cofiwch enwi’r rhaglen a ddefnyddioch.
Gweithgaredd 3
Archwiliwch yr wybodaeth a gasglwyd gennych i lunio eich log ymchwil o ffynonellau eilaidd. A oes unrhyw ddata o’r ffynonellau hyn y gellid ei gynnwys yn eich adroddiad? Cofiwch gydnabod ffynhonnell yr wybodaeth. (Beth oedd enw’r wefan lle daethoch ar draws y data?)
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U1-3.2-Adnodd3.docx