Dull Cyflwyno

Casgliadau

Yn y bôn, eich casgliadau fydd prif ganfyddiadau eich ymchwiliad i ansawdd profiad y cwsmer yn eich sefydliad dewisol.                                              

Mae rhai cwestiynau allweddol i’w hystyried:

  • Beth sy’n dda am brofiad y cwsmer yn eich sefydliad dewisol?         
  • Beth sy’n wael am brofiad y cwsmer yn eich sefydliad dewisol?        
  • O’ch ymchwil, sut gallai profiad y cwsmer gael ei wella yn eich sefydliad dewisol?               

Ar wahân i’r prif gwestiynau hyn, mae ffyrdd eraill y gallech ddatblygu eich casgliadau. Er enghraifft:           

  • Pa grwpiau o gwsmeriaid sy’n cael profiad arbennig o dda gan fodloni eu hanghenion a’u disgwyliadau?                     
  • I ba grwpiau o gwsmeriaid y gellid gwella lefel gyffredinol y profiad, a sut?        
  • A oes grwpiau o gwsmeriaid sy’n cael profiad o ansawdd gwael? A allwch egluro pam?                          

Un ffordd arall o ddod i gasgliadau yw ystyried profiad y cwsmer mewn amryw agweddau ac adrannau o’r sefydliad. Gallai’r rhain gynnwys:              

  • Gwybodaeth ar-lein ac ansawdd y wefan          
  • Gwerthu tocynnau
  • Mynediad, arwyddion a pharcio ceir
  • Mynedfa a gwybodaeth i ymwelwyr
  • Arwyddion yn y sefydliad        
  • Ansawdd reidiau a chyfleusterau eraill
  • Ansawdd lluniaeth      
  • Toiledau a chyfleusterau i’r rheini ag anghenion ychwanegol
  • Cofroddion a nwyddau