Senario 1
Mae caffi a bar bistro RJ wedi’i leoli mewn tref glan môr arfordirol o fewn pellter byr o’r traeth lleol a llwybrau cerdded arfordirol yn ne-ddwyrain Lloegr. Mae gan y caffi/ bar bistro seddau tu mewn yn ogystal â theras yn wynebu’r môr. Mae’r hyn sydd gan y caffi/bar bistro i’w gynnig yn apelio at amrywiaeth o oedrannau, o ymwelwyr yn dod mewn am goffi i grwpiau yn mwynhau’r cyfleusterau yn y nos. Mae gan y caffi/bar bistro gerddoriaeth fyw yn achlysurol, yn darparu adloniant i’w gwsmeriaid.
Mae’r perchennog, Mrs Rhian James, yn dymuno agor ail gaffi/bar bistro yn dilyn llwyddiant yr un yma. Hoffai i’w ffrind ymuno â hi ar ei menter newydd gan ei bod yn credu y byddent yn fwy llwyddiannus gyda’i gilydd.