Senario 3
Mae Parc Thema Daredevil yn atyniad ymwelwyr poblogaidd sy’n cynnig amrywiaeth o antur a reidiau i deuluoedd. Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus ‘Themed Leisure’ sy’n berchen Daredevil ac sy’n gyfrifol am 20 o atyniadau i ymwelwyr, yn cynnwys parciau dŵr, sŵau, parciau hamdden ac acwaria. Mae Themed Leisure PLC yn cyflogi 1,000 o weithwyr parhaol, a 2,000 o weithwyr dros dro yn ystod anterth y tymor. MaeThemed Leisure PLC yn fusnes dynamig a chystadleuol iawn sy’n anelu i arwain atyniadau ymwelwyr y byd drwy barhau i dyfu a diweddaru cyfleusterau presennol.