Dull Cyflwyno

Amcanion Busnes

Mae sefydliadau twristiaeth yn gobeithio cyflawni amcanion busnes er mwyn symud ymlaen. Gyda diffyg amcanion clir a dealltwriaeth glir o be hoffai’r busnes gyflawni, mae’r busnes yn llawer mwy tebygol o ffaelu neu wynebu sialensiau. Yn aml iawn, mae busnesau yn cynhyrchu datganiad o fwriad sy’n amlinellu'r hyn mae’r busnes am ei gyflawni.

Darllenwch y darn yn y bocs isod am wahanol fathau o amcanion busnes wedi’i dynnu o lawlyfr rheolaeth busnes.

  • Gwneud yr elw mwyaf. Mae model mwyaf sylfaenol busnes yn tybio bod cwmnïau eisiau gwneud yr elw mwyaf. Maen nhw’n gwneud hyn drwy gynyddu refeniw (codi’r pris, cynyddu cyfanswm y nwyddau a werthwyd neu leihau costau). Mae elw uwch yn galluogi cwmni i dalu cyflogau uwch, rhoi difidend i gyfranddalwyr a goroesi dirywiad economaidd.
  • Uchafu twf. Opsiwn amgen i wneud yr elw mwyaf yw i gwmni geisio cynyddu’r gyfran marchnad a chynyddu maint y cwmni. Mae modd gwneud hyn drwy leihau prisiau a chynyddu gwerthiannau. Gall uchafu twf ddigwydd ar draul elw is.
  • Pryderon cymdeithasol / moesegol. Efallai nad yw sefydliad yn cael ei ysgogi gan arian, ond gall y sefydliad chwilio am arian i gynnig gwasanaeth i’r gymuned leol. Gallan nhw wneud penderfyniadau gwirfoddol sydd o fudd i’r amgylchedd / gymuned leol. Mae nifer o gwmnïau mawr heddiw yn rhoi pwysau mawr ar hyrwyddo polisïau moesegol.
  • Delwedd gorfforaethol. Mae delwedd / brand cwmni yn berthnasol ar gyfer pryderon cymdeithasol / moesegol. Gallai ddymuno estyn delwedd a brand penodol.
  • Lles rhanddeiliaid. Gall gwmni hefyd boeni am les ei randdeilaid – darparwyr, gweithwyr a chwsmeriaid. Er enghraifft, rhoi hyfforddiant a sicrwydd swyddi hir dymor i’w weithwyr.
  • Goroesiad. I sawl busnes, mae’n golygu goroesi – adennill costau. Ar adegau anobeithiol, gall cwmnïau gael eu gorfodi i werthu eu hasedau er mwyn talu eu credydwyr. Ar gyfer nifer o fusnesau bach lleol sy’n brwydro mewn marchnad hynod o gystadleuol, gall goroesi fod y gorau y gallan nhw obeithio amdano.