Busnes Twristiaeth

MPA 1.2 Esboniwch amcanion sefydliadau twristiaeth

Amcanion Busnes

Mae sefydliadau twristiaeth yn gobeithio cyflawni amcanion busnes er mwyn symud ymlaen. Gyda diffyg amcanion clir a dealltwriaeth glir o be hoffai’r busnes gyflawni, mae’r busnes yn llawer mwy tebygol o ffaelu neu wynebu sialensiau. Yn aml iawn, mae busnesau yn cynhyrchu datganiad o fwriad sy’n amlinellu'r hyn mae’r busnes am ei gyflawni.

Darllenwch y darn yn y bocs isod am wahanol fathau o amcanion busnes wedi’i dynnu o lawlyfr rheolaeth busnes.

  • Gwneud yr elw mwyaf. Mae model mwyaf sylfaenol busnes yn tybio bod cwmnïau eisiau gwneud yr elw mwyaf. Maen nhw’n gwneud hyn drwy gynyddu refeniw (codi’r pris, cynyddu cyfanswm y nwyddau a werthwyd neu leihau costau). Mae elw uwch yn galluogi cwmni i dalu cyflogau uwch, rhoi difidend i gyfranddalwyr a goroesi dirywiad economaidd.
  • Uchafu twf. Opsiwn amgen i wneud yr elw mwyaf yw i gwmni geisio cynyddu’r gyfran marchnad a chynyddu maint y cwmni. Mae modd gwneud hyn drwy leihau prisiau a chynyddu gwerthiannau. Gall uchafu twf ddigwydd ar draul elw is.
  • Pryderon cymdeithasol / moesegol. Efallai nad yw sefydliad yn cael ei ysgogi gan arian, ond gall y sefydliad chwilio am arian i gynnig gwasanaeth i’r gymuned leol. Gallan nhw wneud penderfyniadau gwirfoddol sydd o fudd i’r amgylchedd / gymuned leol. Mae nifer o gwmnïau mawr heddiw yn rhoi pwysau mawr ar hyrwyddo polisïau moesegol.
  • Delwedd gorfforaethol. Mae delwedd / brand cwmni yn berthnasol ar gyfer pryderon cymdeithasol / moesegol. Gallai ddymuno estyn delwedd a brand penodol.
  • Lles rhanddeiliaid. Gall gwmni hefyd boeni am les ei randdeilaid – darparwyr, gweithwyr a chwsmeriaid. Er enghraifft, rhoi hyfforddiant a sicrwydd swyddi hir dymor i’w weithwyr.
  • Goroesiad. I sawl busnes, mae’n golygu goroesi – adennill costau. Ar adegau anobeithiol, gall cwmnïau gael eu gorfodi i werthu eu hasedau er mwyn talu eu credydwyr. Ar gyfer nifer o fusnesau bach lleol sy’n brwydro mewn marchnad hynod o gystadleuol, gall goroesi fod y gorau y gallan nhw obeithio amdano. 

Gweithgaredd

Ar ôl darllen drwy’r wybodaeth, eglurwch sut gall pob un o’r ffactorau yn y bocs fod o bwysigrwydd i sefydliadau twristiaeth. Ceisiwch ysgrifennu 4 neu 5 llinell ar gyfer pob ffactor. Mae’r cyntaf wedi ei wneud yn barod.

Gwneud yr elw mwyaf

Mae gwneud yr elw mwyaf yn bwysig i Alton Towers oherwydd mae’r cwmni angen parhau i fuddsoddi mewn reidiau newydd er mwyn atynnu cwsmeriaid. Mae reidiau parciau thema enfawr yn costio miliynau o bunnoedd i’w dylunio a’u sefydlu, felly mae angen elw er mwyn buddsoddi yn y reidiau newydd.

Wrth ysgrifennu eglurhad, mae’n hawdd defnyddio’r gair oherwydd yn aml. Er enghraifft: Mae’r cwmni hedfan yn cynnig diodydd am ddim yn y dosbarth busnes oherwydd....

Mae’r wybodaeth isod yn rhoi syniadau i chi am eiriau eraill i’w defnyddio yn lle oherwydd.

Opsiynau amgen i ‘oherwydd’

Mae modd defnyddio nifer o eiriau ac ymadroddion i ddechrau eglurhad. Y mwyaf cyffredin yw “oherwydd” (neu “oherwydd i”), ond mae yna opsiynau eraill. Dyma rai dewisiadau eraill a thrafodaeth am eu defnyddiau a’u manteision.

Am: Mae am yn gwbl gyfystyr ag “oherwydd” (er enghraifft, “Dewisodd beidio â mynd i weld y ffilm, am iddi gael adolygiadau gwael”).

O ganlyniad i: Mae’r ymadrodd hwn yn gweithio yn lle “oherwydd”, fel “O ganlyniad i’w ymyriad, ail-agorwyd yr achos, a chanfuwyd ei fod yn ddieuog”.

Cyhyd â: Mae’r ffurf anffurfiol hon ar ‘oherwydd’ yn cael ei defnyddio i fynegi'r syniad am fod un peth yn digwydd neu’n mynd i ddigwydd neu’n wir, y bydd peth arall yn bosib, mewn datganiadau fel “Cyhyd â dy fod yn mynd, allet ti gasglu rhai pethau i mi?”

Gan fod: Mae gan yr ymadrodd hwn yr un ystyr – a’r un ffurfioldeb â – “cyhyd â”.

O ystyried bod: Mae’r ymadrodd hwn bron yn unfath ei ystyr i “cyhyd â” ac “am fod” â’u tebyg.

O achos: Mae hwn yn berthnasol yn benodol i egluro pam ddigwyddodd rhywbeth neu pam fydd yn digwydd neu na fydd yn digwydd, er enghraifft “O achos y ceisiadau niferus, ni allwn ymateb yn unigol i bob ymgeisydd.”

Canys: Mae’r opsiwn amgen hwn ar gyfer oherwydd ar gyfer defnydd barddonol, fel “Gadewch i ni fwyta ac yfed, canys yfory, byddwn farw”.

Yn gymaint â: Er enghraifft: “Yn gymaint â bod ei adroddiad wedi cael ei amharchu, ni fyddwn yn credu unrhyw beth arall mae’n ei ddweud”

Yn wyneb y ffaith: Mae’r ymadrodd hwn yn debyg i “yn gymaint â”.

Allan o: Mae’r adroddiad yma yn gymwys i esboniadau am emosiwn neu deimladau – er enghraifft, “ Gofynnodd allan o dosturi” neu “Allan o sbeit, phasiais i mo’r neges ymlaen”.

O weld: Mae’r ymadrodd hwn yr un peth ag “o ystyried bod”.

Gan: Er enghraifft “Gan ei bod hi wedi bwrw glaw, doedd dim angen i ni roi dŵr ar yr ardd”; efallai na fydd y darllenydd yn sylwi nes bod wedi darllen ail hanner y frawddeg bod yr ystyr yn achosol yn hytrach nag amseryddol.

Yn sgil: Mae’r dewis hwn yn lle ‘oherwydd’ yn gallu bod yn gymwys i ganlyniad cadarnhaol neu negyddol; “Yn sgil eich busnesau, rydym yn cael llawer o sylw digroeso”, sy’n enghraifft o ganlyniad negatif.

Drwy: Arddodiad yw drwy ac mae’n cymryd lle ‘oherwydd’, e.e. “Drwy ymdrechion yr elusennau hyn, mae gwasanaethau digartref y ddinas wedi’u hadfer”.

Rydych nawr yn barod i greu eich eglurhad. Defnyddiwch cymaint o’r opsiynau amgen i ‘oherwydd’ ag sy’n bosib, ond sicrhewch eich bod yn eu defnyddio’n gywir.