Gweithgaredd 1
Ar gyfer pob un o’r busnesau twristiaeth isod, cynhyrchwch ddau amcan addas ar gyfer y flwyddyn ganlynol. (Peidiwch â defnyddio’r un amcan ddwywaith!)
Senario 1
Mae perchenogion Fferm Parc Cartref wedi penderfynu datblygu atyniad fferm a fyddai’n cynnwys teithiau o’r fferm, a chyfle i weld amrywiaeth o fridiau prin. Bydd hefyd ystod o fwyd wedi’i gynhyrchu gartref ar werth. Mae’r perchenogion wedi benthyg £25,000 o’r banc er mwyn sefydlu’r atyniad.
Senario 2
Mae Cwmni Hedfan Cambrian yn fusnes newydd, ac wedi lansio tri llwybr newydd o Bryste i Paris, Rhufain a Barcelona. Mae gan y cwmni hedfan ddwy awyren sy’n gallu cario 138 o deithwyr yr un. Cost pob awyren yw £35 miliwn, sydd wedi’i fenthyg o’r banc.
Senario 3
Fe wnaeth parc thema Thrills a Spills golled o £750,000 flwyddyn diwethaf. Roedd llawer o’r cwsmeriaid yn anhapus gydag amrywiaeth ac ansawdd y reidiau. Roedd yna hefyd gŵynion am ansawdd gwael y bwyd a oedd ar gael, a’r crysau T rhad a’r cofroddion gwael.
Gweithgaredd 2
Trafodwch eich atebion gyda’ch cyfoedion a’ch athro.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U2-1.2-Adnodd8.docx
- Word (.docx): U2-1.2-Adnodd9.docx