Dull Cyflwyno

Ffactorau Technolegol

Gweithgaredd

Mae gan pobl ifanc heddiw siŵr o fod gwell dealltwriaeth o dechnoleg na’r genhedlaeth hŷn.

Senario:

Dychmygwch fod eich modryb, ewythr neu berthynas arall wedi prynu adeilad adfeiliedig, gyda’r bwriad o’i ddatblygu mewn i westy a chanolfan gynadledda. Bydd gan yr adeilad 45 ystafell wely, tair ystafell gynadledda fawr a phum ystafell gynadledda fach gyda bwyty a bar. Bydd hi’n bosib cynnal priodasau yn y lleoliad hefyd gan fod yr amgylchoedd mor ddymunol.

Gofynnwyd i chi sut bydd y lleoliad newydd yn gwneud y mwyaf o dechnoleg fodern a chyfryngau cymdeithasol. Yn amlwg, bydd yna wefan, ond beth arall fyddwch chi’n ei awgrymu?