Mae’n rhaid i holl sefydliadau twristiaeth ddatblygu drwy’r amser a chadw i fyny gyda’r datblygiadau mewn technoleg sydd wedi digwydd yn y 20 mlynedd diwethaf. Dychmygwch atyniad mawr heb wefan, neu westy mawr heb system archebu ar-lein. Dyma oedd yr achos 20 mlynedd yn ôl.
Gweithgaredd
Mae gan pobl ifanc heddiw siŵr o fod gwell dealltwriaeth o dechnoleg na’r genhedlaeth hŷn.
Senario:
Dychmygwch fod eich modryb, ewythr neu berthynas arall wedi prynu adeilad adfeiliedig, gyda’r bwriad o’i ddatblygu mewn i westy a chanolfan gynadledda. Bydd gan yr adeilad 45 ystafell wely, tair ystafell gynadledda fawr a phum ystafell gynadledda fach gyda bwyty a bar. Bydd hi’n bosib cynnal priodasau yn y lleoliad hefyd gan fod yr amgylchoedd mor ddymunol.
Gofynnwyd i chi sut bydd y lleoliad newydd yn gwneud y mwyaf o dechnoleg fodern a chyfryngau cymdeithasol. Yn amlwg, bydd yna wefan, ond beth arall fyddwch chi’n ei awgrymu?
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U2-2.1-Adnodd7.docx