Busnes Twristiaeth

MPA 2.1 Amgylchedd busnes y DU

Effeithiau ar sefydliadau twristiaeth

O fod wedi cwblhau’r gwaith ar yr uned hon hyd yn hyn, byddwch chi’n sylwi bod yn rhaid i sefydliadau twristiaeth weithredu o fewn amgylchedd busnes lle nad oes ganddyn nhw lawer, neu dim rheolaeth. Mae’n rhaid i sefydliadau twristiaeth ymateb i benderfyniadau gan lywodraeth ac amodau economaidd sy’n newid yn gyson. Yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf mae yna newid cymdeithasol anferthol wedi digwydd yn y DU, a datblygiadau parhaus mewn technoleg. Yn fwy diweddar, ar gyfer rhai teuluoedd, dydy cyflogau ddim yn cadw i fyny gyda chwyddiant, ac mae incwm gwario wedi lleihau.

Ar yr un pryd, mae digwyddiadau eithriadol natur, fel llifogydd, neu weithgaredd terfysgol yn gallu effeithio ar fusnesau twristiaeth.

Mae rhai o’r prif effeithiau ar sefydliadau twristiaeth sydd wedi’u hachosi gan yr amgylchedd tu hwnt i’r busnes yn cynnwys:

  • Effeithiau ariannol
  • Niferoedd ymwelwyr/ cwsmeriaid
  • Gwerthiannau
  • Gweithwyr

Effeithiau Ariannol

Os nad yw busnesau twristiaeth y sector breifat yn gwneud elw, yna bydden nhw’n mynd allan o fusnes. Mae hyn yn digwydd i lawer o fusnesau twristiaeth bob blwyddyn. Mae ssiantaethau teithio, atyniadau bach a gwestai yn rhai o’r sefydliadau fwyaf tebygol o fynd allan o fusnes. Mae hyn yn digwydd gan fod costau yn cynyddu ac/ neu incwm yn gostwng, felly, does dim modd i’r sefydliad dalu eu biliau. Yn aml, wrth i incwm ostwng, nid yw’r sefydliad yn ennill digon o arian i fuddsoddi yn y busnes a gwneud gwelliannau. Mae hyn fel arfer yn arwain at leihad yn niferoedd cwsmeriaid.

Gweithgaredd 1

Darllenwch yr erthygl papur newydd isod ac atebwch y cwestiynau sy’n dilyn.

A seaside hotel in Plymouth told its guests over breakfast that they would have to leave as it was closing down. The Beeches Hotel on the Plymouth Hoe told its guests in the hotel to vacate the premises by 11am while others on their way to Plymouth had their bookings cancelled, the local paper reports.  One guest from the US arrived to bolted doors. He said he had not been told of the closure when he spoke to hotel staff the day before.

Speaking to the local newspaper, he said: "This morning as I was driving down from London, Expedia called to say there was no accommodation for me. They have sent me an email with some alternative options but have been offered a refund if I don't like any of them.

"We wanted the sea view here. You can stay at places on the Barbican but you do not get the same view of the water."

It's not the first time guests have been thrown out of a hotel at such short notice. Last year, a Scottish hotel closed without informing its guests who were still inside. The Glen Fyne Hotel, near Inverness, closed while a Danish couple and a woman from Dundee were still staying there.

The owner was reportedly taken ill and left. A cleaner then arrived to cook breakfast and tend to the guests but she told them that the hotel was closing permanently there and then.  The guest from Dundee said: "I got up... and there was nobody in the hotel at all, and the owners’ cars that had been parked outside were not there."  

Niferoedd ymwelwyr/cwsmeriaid

Un o’r enghreifftiau gorau o sut mae’r diwydiant twristiaeth wedi newid yn y blynyddoedd diweddar yw’r twf mewn cludiant awyr o fewn y DU ac Ewrop. Mae hyn wedi digwydd o ganlyniad i newidiadau technolegol sydd wedi ei gwneud hi’n haws i archebu teithiau hedfan ar-lein a thwf cwmnïau awyren ‘rhad’ fel Ryanair ac easyJet. Mae’r rhain, a chwmnïau hedfan eraill, wedi darparu teithiau hedfan rhad drwy leihau costau a gofyn am fwy o arian gan gwsmeriaid am ‘ychwanegion’, fel mynd â bagiau ar yr awyren a dewis sedd. Mae’r twf yn niferoedd y cwsmeriaid sy’n hedfan gyda easyJet, a ddangosir isod, yn dangos pa mor gyflym mae’r cwmnïau hedfan hyn wedi tyfu.

Effects on Tourism organisations cym

Gweithgaredd 2

Lluniwch graff i ddangos y cynnydd sydyn yn niferoedd teithwyr easyJet.

Gweithgaredd 3

Crynodeb Ymweliadau Diwrnod 3+ Awr

  • Gostyngodd ymweliadau diwrnod 3+ awr ym Mhrydain Fawr -1% ar gyfer y tri mis yn arwain i Awst yn 2017 o gymharu gyda’r un cyfnod yn 2016, i 811 miliwn o ymweliadau.
  • Gostyngodd gwerth yr ymweliadau hyn 1% ar gyfer y tri mis yn arwain i Awst o gymharu gyda’r un cyfnod y flwyddyn ddiwethaf i £24.1 biliwn
  • Blwyddyn yn union yn ddiweddarach, mae cyfaint wedi gostwng -4% i 2 biliwn o ymweliadau 3+ awr ac mae gwerth wedi lleihau -1% i £57.3 biliwn
  • Yn Lloegr, gostyngodd cyfaint -3% yn y tri mis yn arwain i Awst 2017 i 671 miliwn. Yn debyg, lleihaodd werth yr ymweliadau hyn -4%, i £19.2 biliwn.
  • Blwyddyn yn union yn ddiweddarach, mae cyfaint ymweliadau diwrnod yn Lloegr wedi lleihau yn gymharol i’r un cyfnod yn 2016 -5%, i 1.7 biliwn, ac mae’r gwerth wedi lleihau 4% i £46.1 biliwn

Astudiwch y wybodaeth yn y sleid ac atebwch y cwestiynau islaw.

O’r wybodaeth uchod, mae’n ymddangos roedd yna lai o ymweliadau diwrnod yn para mwy na 3 awr neu fwy yn 2017 o gymharu â 2016. Yw hyn yn newyddion drwg neu dda?

Gweithgaredd 4

Cwblhewch golofn dde'r tabl islaw drwy ysgrifennu naill ai ‘newyddion drwg’ neu ‘newyddion da’ ar gyfer bob un o’r datganiadau.

Gwerthiannau

Gall newid mewn incwm gwario neu ryw reswm arall egluro pam fod gan bobl lai o arian i’w wario ar werthiannau yn ogystal ag effeithio ar niferoedd yr ymwelwyr a chwsmeriaid.

Ar gyfer sefydliadau mawr fel parciau thema, ffynhonnell bwysig o arian yw ‘gwario eilaidd’. Dyma gyfanswm yr arian sy’n cael ei wario gan ymwelwyr pan maen nhw yn y parc thema. Mae hyn yn cynnwys gwario ar luniaeth a chofroddion. Os yw pobl yn teimlo ychydig o straen ariannol, gallan nhw ddal fforddio ymweld â’r parc thema, ond cyfyngu ar eu gwario drwy gael llai o luniaeth neu beidio â phrynu cofroddion.

Gweithgaredd 5

Ar gyfer pob un o’r gweithgareddau twristiaeth sy’n cael eu dangos isod, awgrymwch sut gall pobl barhau i fwynhau’r gweithgaredd, ond gwario llai o arian.

  • Aros mewn gwesty
  • Mynd ar daith hedfan
  • Mynd ar wyliau

Gweithwyr

Yn amlwg, mae amodau economaidd newidiol ac incymau gwario yn cael effaith ar bobl sy’n gweithio i sefydliadau twristiaeth.