Dull Cyflwyno

Effeithiau ar sefydliadau twristiaeth

O fod wedi cwblhau’r gwaith ar yr uned hon hyd yn hyn, byddwch chi’n sylwi bod yn rhaid i sefydliadau twristiaeth weithredu o fewn amgylchedd busnes lle nad oes ganddyn nhw lawer, neu dim rheolaeth. Mae’n rhaid i sefydliadau twristiaeth ymateb i benderfyniadau gan lywodraeth ac amodau economaidd sy’n newid yn gyson. Yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf mae yna newid cymdeithasol anferthol wedi digwydd yn y DU, a datblygiadau parhaus mewn technoleg. Yn fwy diweddar, ar gyfer rhai teuluoedd, dydy cyflogau ddim yn cadw i fyny gyda chwyddiant, ac mae incwm gwario wedi lleihau.

Ar yr un pryd, mae digwyddiadau eithriadol natur, fel llifogydd, neu weithgaredd terfysgol yn gallu effeithio ar fusnesau twristiaeth.

Mae rhai o’r prif effeithiau ar sefydliadau twristiaeth sydd wedi’u hachosi gan yr amgylchedd tu hwnt i’r busnes yn cynnwys:

  • Effeithiau ariannol
  • Niferoedd ymwelwyr/ cwsmeriaid
  • Gwerthiannau
  • Gweithwyr