Gwerthiannau
Gall newid mewn incwm gwario neu ryw reswm arall egluro pam fod gan bobl lai o arian i’w wario ar werthiannau yn ogystal ag effeithio ar niferoedd yr ymwelwyr a chwsmeriaid.
Ar gyfer sefydliadau mawr fel parciau thema, ffynhonnell bwysig o arian yw ‘gwario eilaidd’. Dyma gyfanswm yr arian sy’n cael ei wario gan ymwelwyr pan maen nhw yn y parc thema. Mae hyn yn cynnwys gwario ar luniaeth a chofroddion. Os yw pobl yn teimlo ychydig o straen ariannol, gallan nhw ddal fforddio ymweld â’r parc thema, ond cyfyngu ar eu gwario drwy gael llai o luniaeth neu beidio â phrynu cofroddion.