Niferoedd ymwelwyr/cwsmeriaid
Un o’r enghreifftiau gorau o sut mae’r diwydiant twristiaeth wedi newid yn y blynyddoedd diweddar yw’r twf mewn cludiant awyr o fewn y DU ac Ewrop. Mae hyn wedi digwydd o ganlyniad i newidiadau technolegol sydd wedi ei gwneud hi’n haws i archebu teithiau hedfan ar-lein a thwf cwmnïau awyren ‘rhad’ fel Ryanair ac easyJet. Mae’r rhain, a chwmnïau hedfan eraill, wedi darparu teithiau hedfan rhad drwy leihau costau a gofyn am fwy o arian gan gwsmeriaid am ‘ychwanegion’, fel mynd â bagiau ar yr awyren a dewis sedd. Mae’r twf yn niferoedd y cwsmeriaid sy’n hedfan gyda easyJet, a ddangosir isod, yn dangos pa mor gyflym mae’r cwmnïau hedfan hyn wedi tyfu.
