Effeithiau Ariannol
Os nad yw busnesau twristiaeth y sector breifat yn gwneud elw, yna bydden nhw’n mynd allan o fusnes. Mae hyn yn digwydd i lawer o fusnesau twristiaeth bob blwyddyn. Mae ssiantaethau teithio, atyniadau bach a gwestai yn rhai o’r sefydliadau fwyaf tebygol o fynd allan o fusnes. Mae hyn yn digwydd gan fod costau yn cynyddu ac/ neu incwm yn gostwng, felly, does dim modd i’r sefydliad dalu eu biliau. Yn aml, wrth i incwm ostwng, nid yw’r sefydliad yn ennill digon o arian i fuddsoddi yn y busnes a gwneud gwelliannau. Mae hyn fel arfer yn arwain at leihad yn niferoedd cwsmeriaid.