Dull Cyflwyno

Oriau gweithio

Gweithgaredd 1

Mae oriau gweithio o fewn y diwydiant twristiaeth yn amrywio’n sylweddol. Mae rhai cyflogwyr angen i’w gweithwyr weithio patrymau shifft nos a dydd, tra bod eraill yn cyflogi gweithwyr ar batrwm shifft, e.e. 9yb i 5yh.

Gan weithio mewn parau neu grwpiau bach a chan ddefnyddio’r rhyngrwyd, dewiswch ddwy swydd o’r rhestr isod ac ymchwiliwch i’r gwahanol oriau gweithio ar gyfer eich swydd ddewisol. Cyflwynwch eich darganfyddiadau i’ch partner neu aelodau eraill y grŵp.

  • Peilot
  • Criw caban
  • Gyrrwr bws
  • Asiant teithio
  • Cynrychiolydd gwyliau
  • Rheolwr gwesty
  • Pen-cogydd
  • Person trin bagiau
  • Glanhawr gwesty