Gweithgaredd
Dewiswch un o’r cyrchfannau o Weithgaredd 1 ac eglurwch pam yr hoffai eich twrist dewisol fynd yno. Ceisiwch roi mwy nag un rheswm.
E.e. pe byddai dewis o fynd i Lundain a’ch bod wedi paru hwnnw ag unigolyn sydd wrth ei fodd â hanes, efallai byddai eich ateb yn debyg i hwn.
‘Rwyf wedi paru unigolyn sydd wrth ei fodd â hanes â mynd i Lundain am fod llawer o hanes yn Llundain. Byddai’r math hwn o dwrist ar ben ei ddigon yn ymweld â lleoedd fel Palas Buckingham, sef cartref teulu brenhinol y DU. Efallai yr hoffai ymweld â Thŵr Llundain a Tower Bridge.
Gall hyd yn oed ymweld â’r Natural History Museum a’r British Museum. Mae digonedd i hanesydd ei fwynhau yn Llundain.’
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U3-1.2-Adnodd6.docx