Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

MPA 1.2 Disgrifiwch nodweddion gwahanol fathau o dwristiaid

Oedran

Caiff twristiaid eu categoreiddio fel arfer yn ôl oedran, o fabanod i bobl hŷn.

A ddywedech chi fod cyrchfannau i dwristiaid yn benodol i oedran? Pam mae grwpiau oedran penodol yn dewis un cyrchfan yn lle un arall? Beth sy’n digwydd pan fydd grŵp o oedrannau cymysg? Y rhain yw’r math o faterion y mae angen i chi eu deall a’u gwerthfawrogi.          

Gweithgaredd 1

Gan weithio mewn parau neu grwpiau bach, ymchwiliwch i un o’r cyrchfannau arfordirol canlynol yn y DU.

  • Newquay, Cernyw 
  • Bournemouth
  • Dinbych-y-pysgod
  • Blackpool
  • Porthcawl

Ewch ati i greu poster i hysbysebu’r cyrchfan i grŵp oedran penodol o dwristiaid. Cofiwch gynnwys gwybodaeth fel

  • Gweithgareddau a phethau addas i’w gwneud sy’n benodol i oedran
  • Lleoedd i aros, e.e. parc carafanau, gwely a brecwast, a gwestyau sy’n addas i’r oedran

Rhannwch eich poster gyda’r dosbarth.

Gweithgaredd 2

Mae Ibiza a Zante yn gyrchfannau sy’n denu llawer o bobl ifanc oherwydd eu diwylliant clybiau, ond mae gan Ibiza a Zante lawer mwy na chlybiau i’w gynnig ac maent yn gyrchfannau sy’n gallu bod yn addas i grwpiau oedran eraill.

Mewn parau neu grwpiau bach, ymchwiliwch i Ibiza neu Zante ac yna creu cyflwyniad PowerPoint sy’n rhoi 10 ffaith ddiddorol naill ai am Ibiza neu Zante sy’n dangos bod gan y cyrchfan lawer mwy i’w gynnig na chlybio yn unig.          

Gweithgaredd 3

Meddyliwch am gyrchfan yr hoffech ymweld ag ef neu efallai yr ymweloch ag ef eisoes. 

Eglurwch pam yr hoffech ymweld â’ch cyrchfan dewisol neu beth a fwynhaoch am y cyrchfan. Ystyriwch sut a beth yr oedd yn ei gynnig i’ch grŵp oedran chi – sef y glasoed.