Ymhle mae lle
I bob pwrpas, lleoliad cyrchfan twristiaeth yw ei safle daearyddol. Yn syml iawn, ble mae e...
Gellir disgrifio lleoliad cyrchfan drwy:
- Nodi pa mor bell yw o drefi a dinasoedd ac ardaloedd eraill
- Dweud a yw ar yr arfordir, ger yr arfordir neu ar lan prif afon
- Defnyddio pwyntiau’r cwmpawd
- Dweud pa mor bell yw o draffordd, priffordd neu orsaf drenau
- Dweud faint o amser mae’n ei gymryd i’w gyrraedd
Gellir disgrifio lleoliad cyrchfan hefyd drwy ddweud pa mor hir mae’n ei gymryd i’w gyrraedd ar wahanol fathau o gludiant.
Felly, sut gallech ddisgrifio lleoliad Alton Towers?
‘Mae Alton Towers yng nghanol y DU yn Swydd Stafford ac yn agos i ddinasoedd Manceinion a Birmingham. Mae’n cymryd rhyw 3 awr i yrru’r 150 o filltiroedd i Alton Towers o Lundain neu Gaerdydd; mae tua 50 milltir i’r de o Fanceinion. Mae’r orsaf drenau agosaf yn Uttoxeter, ac yn 40 munud i ffwrdd ar fws. Mae tua 30 milltir o Gyffordd 23 o’r M1 a thua’r un pellter o Gyffordd 15 yr M6.’