Gweithgaredd 1
Rhowch gynnig ar enwi’r cyrchfannau glan môr enwog yn y DU o’r disgrifiadau o’u lleoliadau isod. Efallai bydd angen i chi ddefnyddio atlas o’r DU neu fap ar-lein i’ch helpu.
- Mae’r cyrchfan hwn tua 55 milltir i’r de o Ganol Llundain, ac fe’i cyrhaeddir ar yr M23/A23. Mae ar arfordir de Lloegr. Mae tref Eastbourne i’r dwyrain, a Worthing i’r gorllewin.
- Mae’r cyrchfan hwn ar arfordir gogledd-orllewin Lloegr. Mae i’r de o Gaerhirfryn a rhyw 50 milltir i’r gogledd o Fanceinion. Fe’i cysylltir â’r M6 gan yr M55.
- Mae’r cyrchfan hwn tua 60 milltir i’r gorllewin o Lerpwl ar y ffyrdd, a’r brif ffordd fynediad yw’r A55. Mae ar arfordir Gogledd Cymru.
- Mae’r cyrchfan hwn tua 100 milltir i’r de-orllewin o Lundain. Fe’i cyrhaeddir ar yr M3 ac mae yno brif orsaf drenau. Mae i’r gorllewin o Barc Cenedlaethol New Forest.
- Mae’r cyrchfan ynys hwn oddi ar arfordir de Lloegr ac fe’i cyrhaeddir ar fferi o Portsmouth. Mae i’r de o Southampton.
- Mae’r cyrchfan hwn ar arfordir dwyreiniol Swydd Efrog. Mae tua 70 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Leeds ac ychydig i’r de o Barc Cenedlaethol Dyffrynnoedd Efrog.
- Mae’r cyrchfan hwn ar arfordir gorllewin Cymru ym Mae Ceredigion. Mae’n cymryd tua dwy awr a hanner i yrru tua’r 100 milltir o Gaerdydd.