Hyrwyddo
- Hyrwyddir y rhan fwyaf o gadwyni bwyd brys yn ganolog a bydd ganddynt yr un pris mewn unrhyw safle yn y wlad.
- Bydd bwytai lleol yn hyrwyddo eu hunain drwy wefannau twristiaid a chanllawiau ‘beth sy’n digwydd’. Nid oes gan bob bwyty ei wefan ei hun o bell ffordd.
- Bydd siopau te a choffi yn hysbysebu y tu allan i’w safle ac efallai mewn pamffledi twristiaid lleol.
- Hyrwyddir gwyliau bwyd, marchnadoedd ffermwyr a digwyddiadau eraill gan y cyngor a/neu fwrdd croeso lleol.