Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

MPA 4.1

Bwyd a diod

Cyflwyniad

Mae angen i’r rhan fwyaf o dwristiaid allu canfod lleoedd lle gallant brynu prydau a bwyd yn ystod eu hamser mewn cyrchfan twristiaeth. I rai, mae bwyd a diod yn rhan bwysig o’r gwyliau. Bydd hyd yn oed twristiaid sy’n hunanarlwyo yn ymweld â rhai bwytai neu leoedd bwyta eraill yn ystod eu gwyliau. Mae rhai cyrchfannau’n adnabyddus am y bwyd a weinir yn y bwytai ac, weithiau, dyma yw apêl fawr y cyrchfan. Mewn llawer o gyrchfannau, bydd arbenigeddau bwyd a diod lleol yn apelio at dwristiaid. Yn ddiweddar, anogwyd cyrchfannau i ddarparu amrywiaeth o ddewisiadau i roi dewis helaeth o leoedd bwyta i ymwelwyr. Hefyd, mae mwy a mwy o fwyd a gynhyrchir yn lleol ar gael erbyn hyn. Gallai bwyd a diod mewn cyrchfannau twristiaeth gael eu darparu gan fusnes lleol neu gadwyni byd-eang fel McDonalds a KFC.                            

Mathau o dwrist

Twristiaid hamdden – gallai’r rhain fod yn aros mewn gwestyau ac ati ar sail llety a phob pryd bwyd, gwely a brecwast ac un pryd bwyd, neu wely a brecwast neu hunanarlwyo. Bydd y rhan fwyaf o dwristiaid hamdden yn defnyddio amrywiaeth o sefydliadau bwyd a diod, gan ddibynnu ar eu cyllideb.                           

Twristiaid busnes – byddant fel arfer yn bwyta yn y gwesty lle maen nhw’n aros. Maent hefyd yn debygol o ddefnyddio rhai o’r bwytai drutach yn y cyrchfan.            

Gwahanol oedrannau – mae twristiaid ieuengach yn fwy tebygol o fynd i leoedd lle mae bwyd a diod yn weddol rad. Efallai y defnyddiant gadwyni fel Wetherspoons neu fwytai bwyd brys fel Burger King a Pizza Hut. Mae teuluoedd gyda phlant bach hefyd yn fwy tebygol o ddefnyddio’r dewis hwn. Mae llawer o barau yn fwy tebygol o chwilio am fwyd o ansawdd ac yn fwy tebygol o ddefnyddio’r bwytai gwell a’r rheini sy’n hyrwyddo bwyd a diod a gynhyrchwyd yn lleol. Mae pobl hŷn yn fwy tebygol o fwynhau bwydydd traddodiadol fel brecwast Seisnig neu bysgod a sglodion.      

Gwahanol ddiwylliannau – bydd llawer o bobl o wahanol ddiwylliannau am samplu bwyd a diod sy’n gysylltiedig â’r cyrchfan. Bydd eraill yn hoffi cadwyni bwyd brys am eu bod yn gyfarwydd ac yn gyfleus.

Bwyd a diod – gwahanol fathau

  • Bwytai – yn gweini cinio a phrydau gyda’r nos, a diodydd alcoholig ar gael. Efallai bydd gan fwytai drud o ansawdd ddyfarniadau fel sêr Michelin neu adolygiadau rhagorol.
  • Tafarndai a Chlybiau – yn gweini amrywiaeth o gwrw, gwin a diodydd eraill. Mae llawer yn cynnig bwydydd fel pitsa a byrgyrs.
  • Caffis, Siopau Coffi a The – yn tueddu i gynnig diodydd di-alcohol a byrbrydau. Gall y rhain fod yn fusnesau lleol neu’n gadwyni cenedlaethol fel Costa Coffee.
  • Bwydydd brys – yn gweini pitsa a byrgyrs, a’r rhan fwyaf ohonynt yn gadwyni rhyngwladol. Maent yn denu twristiaid am eu bod yn gyfarwydd ac yn gyfleus.
  • Cynnyrch lleol – mae llawer o ddarparwyr bwyd a diod bellach yn hyrwyddo’r eitemau a gynhyrchwyd yn lleol sydd ganddynt ar gael. Gall y rhain amrywio o selsig o fferm gyfagos neu gwrw o fragdy lleol.
  • Marchnadoedd Ffermwyr – mae’r rhain yn fwyfwy poblogaidd, yn cynnig apêl ychwanegol i dwristiaid yn ogystal â’r cyfle i brynu bwydydd a gynhyrchwyd yn lleol.
  • Cogyddion Enwog – mae cogyddion enwog wedi agor bwytai mewn nifer o gyrchfannau twristiaid. Mae hyn wedi cynyddu apêl y cyrchfan am fod mwy o bobl yn awr yn gwylio rhaglenni coginio ar y teledu.      
  • Digwyddiadau bwyd – mae rhai cyrchfannau’n trefnu gwyliau bwyd i hyrwyddo eitemau bwyd a ryseitiau o’r ardal.   

Cynhyrchion a gwasanaethau

  • Bydd unrhyw fwyty newydd neu le arall i fwyta ac yfed yn ychwanegu at apêl cyrchfan.       
  • Bydd bwytai sy’n ennill gwobrau am ansawdd eu bwyd yn denu mwy o gwsmeriaid.          
  • Mae niferoedd cynyddol o safleoedd bwyd yn cynnig dewisiadau iachus ac yn ymwybodol o anghenion pobl ag alergeddau bwyd.     
  • Mae mwy o fwydydd llysieuol a fegan ar gael. 
  • Efallai bydd bwytai’n arbenigo mewn bwydydd o amrywiaeth o wledydd, fel bwydydd Asiaidd ac Ewropeaidd.
  • Gall bwytai gynnig amrywiaeth o gynigion arbennig i wahanol fathau o gwsmeriaid, fel prydau i blant, prydau arbennig i bensiynwyr ac ati.
  • Gall bwytai gymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau a gynhelir yn y cyrchfan. 

Hyrwyddo

  • Hyrwyddir y rhan fwyaf o gadwyni bwyd brys yn ganolog a bydd ganddynt yr un pris mewn unrhyw safle yn y wlad.
  • Bydd bwytai lleol yn hyrwyddo eu hunain drwy wefannau twristiaid a chanllawiau ‘beth sy’n digwydd’. Nid oes gan bob bwyty ei wefan ei hun o bell ffordd.
  • Bydd siopau te a choffi yn hysbysebu y tu allan i’w safle ac efallai mewn pamffledi twristiaid lleol. 
  • Hyrwyddir gwyliau bwyd, marchnadoedd ffermwyr a digwyddiadau eraill gan y cyngor a/neu fwrdd croeso lleol.

Ymglymiad sefydliadau

  • Bydd busnesau lleol yn gwneud eu penderfyniadau eu hunain am eu bwydlenni, prisiau a gweithgareddau hyrwyddo.
  • Bydd angen caniatâd cynllunio gan yr awdurdod lleol ar sefydliadau sydd am adeiladu cyfleusterau bwyd a diod newydd.
  • Rhaid i unrhyw sefydliad sy’n gwerthu bwyd gael ei arolygu gan awdurdodau iechyd a diogelwch.
  • Rhaid i unrhyw dafarn, clwb neu fwyty gael trwydded gan yr awdurdod lleol.            
  • Ni fydd cadwyni cenedlaethol neu ryngwladol o fwytai bwyd brys yn agor cyfleuster newydd heb wneud llawer o ymchwil i sicrhau y bydd y cyfleuster yn broffidiol.
  • Gall llawer o fyrddau croeso ddarparu rhestr o’r holl leoedd i fwyta ac yfed yn y cyrchfan. 

Cyllid

Mae bron pob sefydliad sy’n gwerthu bwyd a diod yn rhan o’r sector preifat, felly bydd angen i ddatblygiadau a gwelliannau i gyfleusterau gael eu hariannu o elw neu drwy fodd benthyciad banc.

Nodwch sut y gall lleoedd sy’n gwerthu bwyd a diod yn eich cyrchfan dewisol gynyddu apêl y cyrchfan i wahanol fathau o dwrist.