Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

MPA 4.1

Llety

Cyflwyniad

Rhaid bod gan gyrchfannau llwyddiannus amrywiaeth dda o lety sy’n addas i amrywiaeth o dwristiaid. Mae angen i’r cyrchfan sicrhau bod y llety sydd ar gael yn bodloni ei anghenion at y dyfodol. Fel y gwelwyd yn Nulyn, mae prinder llety i dwristiaid yn broblem fawr i’r ddinas. Drwy ddatblygu ystod eang o ddewisiadau llety, gan gynnwys amrywiaeth ansawdd (sgoriau seren), gellid ychwanegu apêl i lawer o fathau o dwristiaid. Mae llawer o fathau o lety yn cyflwyno cynlluniau i fod yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd.      

Mathau o dwrist

Twristiaid hamdden – sy’n chwilio am werth am arian. Mae rhai ohonynt yn barod i dalu am lety o ansawdd, ac mae eraill yn brinnach eu harian. Mae ar eraill eisiau llety sy’n agos i’r gweithgareddau y byddant yn cymryd rhan ynddynt yn ystod eu gwyliau.    

Twristiaid busnes – sydd am drefnu eu llety’n hawdd ac sydd am wybod beth yn union y maent yn ei drefnu; dyna pam y mae’n well gan lawer o dwristiaid busnes aros mewn gwestyau cadwyn. Efallai bydd eisiau cyfleusterau cynadledda a’r dechnoleg ddiweddaraf ar y twristiaid hyn.

Gwahanol oedrannau – fel rheol, bydd llai o arian gan barau ieuengach ac efallai byddant yn fodlon rhoi cynnig ar lety Airbnb neu hostel. Bydd ar deuluoedd eisiau diogelwch a chyfleusterau da i’w plant, beth bynnag y bo’u hoedran. Mae parau’n tueddu i chwilio am ansawdd ac amgylchedd tawel/dymunol. Mae ar bobl hŷn eisiau bod yn agos i amwynderau ac efallai bydd angen cymorth arbennig arnynt.

Gwahanol ddiwylliannau – efallai bydd gofyn bwydydd penodol arnynt am resymau crefyddol. Efallai hefyd y byddant yn gwerthfawrogi cael gwybodaeth ar gael mewn gwahanol ieithoedd.

Mathau o lety – termau allweddol

  • Gwestyau
  • Gwely a Brecwast
  • Tai llety
  • Hunanarlwyo
  • Bythynnod gwyliau
  • Parciau Carafanau a Pharciau Gwyliau
  • Gwersylloedd
  • Glampio
  • Tafarndai
  • Porthdai/motelau
  • Aros ar fferm
  • Hostelau
  • Airbnb
  • Hygyrch
  • Sgoriau/safonau ansawdd

Cynhyrchion a gwasanaethau

  • Gellid adeiladu mathau newydd o lety yn y cyrchfan         
  • Mae llawer o ddarparwyr llety’n gobeithio ychwanegu at eu hystod o gyfleusterau i dwristiaid hamdden a busnes     
  • Mae mwy a mwy o ddarparwyr llety’n chwilio am ffyrdd o fod yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd         
  • Mae darparwyr llety’n aml yn anelu at wella eu hansawdd (sgôr seren)
  • Mae cyfleusterau hygyrch ar gael mwyfwy – ond nid ym mhob llety               
  • Efallai bydd gwestyau’n gweithio gyda gweithredwyr teithiau i ddarparu llety grŵp

Hyrwyddo

  • Mae gan y rhan fwyaf o ddarparwyr llety eu gwefan eu hunain
  • Mae llawer o ddarparwyr yn defnyddio safleoedd archebu fel hotels.com a lastminute.com
  • Mae gan gadwyni rhyngwladol fel Hilton a Travelodge eu safleoedd archebu canolog eu hunain
  • Gellir defnyddio Airbnb gan bobl sydd am osod eu cartrefi ar log
  • Gellir archebu’r rhan fwyaf o lety mewn cyrchfan drwy wefan y bwrdd croeso. 

Cynnwys sefydliadau

  • Bydd darparwyr llety sydd am estyn neu adeiladu llety newydd yn gweithio gyda’r awdurdod lleol        
  • Bydd y rhan fwyaf o ddarparwyr llety’n gweithio mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol
  • Bydd cadwyni gwestyau mawr yn gweithio gyda’u rhiant-gwmnïau
  • Bydd gwestyau’n gweithio gyda gweithredwyr teithiau a rhai sefydliadau cludiant
  • Bydd llawer o ddarparwyr llety’n gweithio gydag asiantaethau a sefydliadau yn gwneud arolygiadau ac asesu ansawdd (sgoriau seren)
  • Efallai bydd gwersylloedd a pharciau carafanau yn gweithio gyda pharciau cenedlaethol, AHNE a sefydliadau tebyg                        

Cyllid

  • Darperir bron pob llety gan sefydliadau sector preifat, felly bydd angen i gyllid ddod o elw neu fenthyciadau banc                  
  • Efallai bydd grantiau a benthyciadau ar gael i ariannu gwelliannau amgylcheddol neu i wella hygyrchedd

Nodwch sut y gall darparwyr llety yn eich cyrchfan dewisol gynyddu apêl y cyrchfan i wahanol fathau o dwrist.