Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

MPA 4.1

Rhoi’r cyfan ar waith

Yn yr ymarfer blaenorol, byddwch wedi ystyried y gwahanol ffyrdd y gallai sefydliadau twristiaeth amrywiol sydd ar waith yn y cyrchfan dan sylw weithio i gynyddu apêl y cyrchfan i wahanol fathau o dwristiaid.                      

Byddwch wedi gwneud nodiadau am y ffyrdd amrywiol y gellid cynyddu apêl y cyrchfan drwy sefydliadau twristiaeth yn y cyrchfan yn gwella eu cynhyrchion a’u gwasanaethau.                       

Mae angen yn awr i chi gopïo a gludo’r nodiadau a wnaethoch ar gyfer y chwe adran i gyd o’r diwydiant twristiaeth i’r ffrâm isod.

Darllenwch y nodiadau a wnaethoch i bob un o’r chwe adran yn ofalus.        

Mae angen nawr i chi awgrymu sut gallai’r cyrchfan dan sylw gynyddu ei apêl i wahanol fathau o dwrist, gan ddefnyddio is-benawdau i bob un o’r chwe adran. Defnyddiwch y blwch testun isod i ddatblygu’ch adroddiad. Ceisiwch lunio dwy neu dair brawddeg i bob un o’r chwe adran.