Ymglymiad sefydliadau
- Bydd busnesau lleol yn gwneud eu penderfyniadau eu hunain am eu bwydlenni, prisiau a gweithgareddau hyrwyddo.
- Bydd angen caniatâd cynllunio gan yr awdurdod lleol ar sefydliadau sydd am adeiladu cyfleusterau bwyd a diod newydd.
- Rhaid i unrhyw sefydliad sy’n gwerthu bwyd gael ei arolygu gan awdurdodau iechyd a diogelwch.
- Rhaid i unrhyw dafarn, clwb neu fwyty gael trwydded gan yr awdurdod lleol.
- Ni fydd cadwyni cenedlaethol neu ryngwladol o fwytai bwyd brys yn agor cyfleuster newydd heb wneud llawer o ymchwil i sicrhau y bydd y cyfleuster yn broffidiol.
- Gall llawer o fyrddau croeso ddarparu rhestr o’r holl leoedd i fwyta ac yfed yn y cyrchfan.