Dull Cyflwyno

Rhestr wirio cwsmer cudd

Gweithgaredd

Felly, ar ôl darllen yr adran holi ac ateb uchod, a allwch egluro’n awr beth yw cwsmer cudd a beth mae’n ei wneud?

Ceisiwch nodi mewn ychydig linellau beth mae swydd cwsmer cudd yn ei gynnwys yn eich barn chi.

Ar ôl i chi orffen ysgrifennu, datgelwch y diffiniad o gwsmer cudd isod. Cewch weld pa mor agos oeddech at y diffiniad.

Siopa cudd (a elwir hefyd yn gwsmer cudd) yw offeryn a ddefnyddir gan gwmnïau ymchwil i’r farchnad, sefydliadau gwarchod, neu’n fewnol gan gwmnïau eu hunain i fesur ansawdd eu gwasanaeth cwsmeriaid a phrofiad y cwsmer. Ar y cyfan, mae enw a diben penodol y defnyddiwr cudd yn anhysbys i’r sefydliad sy’n cael ei werthuso. Mae cwsmeriaid cudd yn cyflawni tasgau penodol fel prynu cynnyrch, gofyn cwestiynau, cofrestru cwynion neu ymddwyn mewn modd penodol, ac yna’n darparu adroddiadau neu adborth manwl am eu profiadau.

A chithau’n deall bellach beth yw siopa cudd, gallwch roi cynnig ar fod yn gwsmer cudd y tro nesaf yr ewch i siopa am ddillad. Defnyddiwch y rhestr wirio yn Adnodd 4 i weld pa mor dda mae’r cynorthwywyr yn sgorio mewn perthynas â’r cwestiynau a ofynnir.  (Cofiwch – PEIDIWCH Â MYND A’R FFURFLEN I MEWN GYDA CHI!).