Beth yw cwsmer cudd?
Cyn edrych yn fanwl ar ddatblygu rhestr wirio cwsmer cudd, efallai bydd angen i ni ystyried yn ofalus beth yn union y mae cwsmer cudd yn ei wneud!
Ceir isod eglurhad holi ac ateb o wefan sy’n recriwtio cwsmeriaid cudd. Darllenwch y cwestiynau a’r atebion yn ofalus.
C & A
A: Cwsmer cudd yw unigolyn sy’n cymryd arno ei fod yn gwsmer go iawn wrth asesu lefelau gwasanaeth cwsmeriaid a roddir gan gwmni neu sefydliad. Gall aseiniad cwsmer cudd fod yn alwad ffôn, yn ymweliad, yn e-bost, yn llythyr, yn arolwg gwefan, yn ymweliad wyneb yn wyneb, yn ymweliad cartref.
C: Am beth ydych chi’n chwilio mewn cwsmer cudd?
A: Mae angen bod gennych gof da, sgiliau arsylwi ac ysgrifennu gwych, meistrolaeth dda ar Saesneg ysgrifenedig a llafar, a’r gallu i weithio i derfynau amser caeth. Rhaid hefyd eich bod yn ymroddedig, brwdfrydig a dibynadwy.
C: A allaf fod yn gwsmer cudd amser llawn?
A: Mae bod yn Gwsmer Cudd yn ffordd wych o ennill ychydig o bunnoedd ychwanegol yn eich amser rhydd, ond nid yw’n debygol o ddarparu gwaith amser llawn i chi. Fodd bynnag, mae aseiniadau cwsmer cudd fideo, sy’n cynnwys cwsmeriaid cudd yn defnyddio cyfarpar recordio cudd wrth ymweld â siopau/bwytai/mannau gwerthu ceir ac ati, yn aml yn talu ffi uwch.
C: A oes unrhyw gyfyngiadau oedran?
A: Nid oes unrhyw oedran lleiaf neu fwyaf i fod yn gwsmer cudd, ond os ydych o dan 18 efallai bydd angen i ni gael cytundeb ffurfiol gan eich rhiant neu warcheidwad.
C: A oes angen unrhyw gymwysterau arnaf?
A: Nid oes unrhyw gymwysterau ffurfiol yn ofynnol, ond rhaid bod gennych feistrolaeth dda ar Saesneg ysgrifenedig a llafar, a’r gallu i gael yn rheolaidd at y rhyngrwyd ac e-bost.
C: Rwy’n anabl, a allaf fod yn Gwsmer Cudd o hyd?
A: Gallwch, yn bendant! Mae gennym hefyd rai aseiniadau penodol i gwsmeriaid â phroblemau mynediad neu anableddau – pan lenwch eich ffurflen gais, cofiwch dicio’r blwch perthnasol; yna, pan fydd gennym aseiniad sy’n berthnasol i’ch anabledd, gallwn gysylltu â chi.
C: Faint o amser y mae aseiniadau’n ei gymryd?
A: Bydd aseiniadau’n amrywio yn ôl math; gallent fod yn ddwy funud o alwad ffôn, neu aros dros nos mewn gwesty. Sicrhewch eich bod wedi darllen yr Wybodaeth i’r Cwsmer bob tro cyn cytuno i gwblhau unrhyw aseiniad.
C: Sawl aseiniad a gaf fi?
A: Ni fyddwn byth yn sicrhau aseiniadau rheolaidd i’n cwsmeriaid cudd am fod y gwaith sydd ar gael yn dibynnu’n llwyr ar anghenion a gofynion ein cleientiaid.
C: Faint o dâl a gaf fi?
A: Bydd y tâl yn dibynnu ar hyd a chymhlethdod yr aseiniad. Datganir y ffi ym manylion yr aseiniad. Weithiau byddwn yn gofyn i chi brynu rhywbeth yn rhan o’r aseiniad, ac os felly byddwn yn aml yn ad-dalu’r gost i chi. Cofiwch ddarllen yr Wybodaeth i’r Cwsmer i gael gwybod am hyn.
Gweithgaredd
Felly, ar ôl darllen yr adran holi ac ateb uchod, a allwch egluro’n awr beth yw cwsmer cudd a beth mae’n ei wneud?
Ceisiwch nodi mewn ychydig linellau beth mae swydd cwsmer cudd yn ei gynnwys yn eich barn chi.
Ar ôl i chi orffen ysgrifennu, datgelwch y diffiniad o gwsmer cudd isod. Cewch weld pa mor agos oeddech at y diffiniad.
Siopa cudd (a elwir hefyd yn gwsmer cudd) yw offeryn a ddefnyddir gan gwmnïau ymchwil i’r farchnad, sefydliadau gwarchod, neu’n fewnol gan gwmnïau eu hunain i fesur ansawdd eu gwasanaeth cwsmeriaid a phrofiad y cwsmer. Ar y cyfan, mae enw a diben penodol y defnyddiwr cudd yn anhysbys i’r sefydliad sy’n cael ei werthuso. Mae cwsmeriaid cudd yn cyflawni tasgau penodol fel prynu cynnyrch, gofyn cwestiynau, cofrestru cwynion neu ymddwyn mewn modd penodol, ac yna’n darparu adroddiadau neu adborth manwl am eu profiadau.
A chithau’n deall bellach beth yw siopa cudd, gallwch roi cynnig ar fod yn gwsmer cudd y tro nesaf yr ewch i siopa am ddillad. Defnyddiwch y rhestr wirio yn Adnodd 4 i weld pa mor dda mae’r cynorthwywyr yn sgorio mewn perthynas â’r cwestiynau a ofynnir. (Cofiwch – PEIDIWCH Â MYND A’R FFURFLEN I MEWN GYDA CHI!).
Cwsmer cudd – sefydliad twristiaeth
Mae trefnu ymarfer siopa cudd i sefydliad twristiaeth ychydig yn wahanol i siopa am ddillad. Gan amlaf, mae llawer mwy o agweddau i ymdrin â hwy. Cyn i chi gynllunio eich rhestr wirio am ymarfer siopa cudd mewn sefydliad twristiaeth dewisol, bydd angen i chi ystyried rhai neu’r rhan fwyaf o’r agweddau yn y rhestr isod.
- Arwyddion
- Derbynfa
- Technoleg
- Maes parcio
- Mannau gwerthu bwyd
- Toiledau
- Mynediad i’r anabl
- Prisiau
- Iechyd a Diogelwch
- Reidiau
- Cyfleusterau newid clwt Babanod
- Arddangosion
- Glanhau
- Siop
- Cofroddion
- Mynedfa
- Desg gymorth
- Staff
- Diogelwch
- Mynediad
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U1-3.1-Adnodd3.docx