Llwyddo ym maes ‘Profiad y Cwsmer’

MPA 3.1 Cynllunio offer ymchwilio

Cyflwyniad i’r Dysgwyr

Erbyn hyn byddwch wedi astudio nifer o ffactorau sy’n effeithio ar ansawdd profiad y cwsmer a ddarperir gan sefydliadau twristiaeth. Dylech fod wedi dod i ddeall egwyddorion gwasanaeth cwsmeriaid, sut mae cwsmeriaid yn rhyngweithio â sefydliadau, a byddwch yn ymwybodol o anghenion a disgwyliadau gwahanol grwpiau o gwsmeriaid.         

Yn yr adran olaf hon o’r uned, byddwch yn ymchwilio i ansawdd profiad y cwsmer mewn sefydliad twristiaeth dewisol. Yn gyntaf, byddwch yn cynllunio offer ymchwilio a ddefnyddir i gasglu gwybodaeth. Yna bydd gofyn i chi brosesu’r wybodaeth a gasglwch, ei chyflwyno a dehongli’r wybodaeth cyn dod i gasgliadau.