Gall pobl sy’n gwneud gwaith ymchwil ddefnyddio dau fath o ddata, sef:
Data meintiol – sy’n ymwneud â rhifau a phethau y gellir eu cyfrif.
Data ansoddol – sy’n ymwneud â safbwyntiau a barn pobl.
Mae’r ddau’n bwysig wrth ymchwilio i ansawdd profiad y cwsmer a ddarperir gan sefydliadau twristiaeth.
Un ffordd arall o ddosbarthu data yw yn ôl data cynradd ac eilaidd.
Data cynradd – yw data a gasglir gan yr ymchwilydd (chi!)
Data eilaidd – sydd wedi’i gasglu gan bobl eraill ac wedi’i gyhoeddi yn rhywle, fel arfer ar y rhyngrwyd.
Felly, efallai bydd llawer o wefannau lle mae data ar gael sy’n berthnasol i’ch astudiaeth o wasanaeth cwsmeriaid a ddarperir gan sefydliad twristiaeth. Efallai bydd llawer o’r data hwn yn ansoddol (barn) ond efallai bydd rhywfaint yn feintiol (rhifau).
Mae’n bwysig deall bod gwahanol fathau o wefan a allai ddarparu gwahanol fathau o wybodaeth.
Bydd y rhestr isod yn rhoi rhyw syniad i chi o’r mathau o wefan a allai fod yn ddefnyddiol.
- Dylai gwefan y sefydliad rydych yn ei astudio fod yn ddefnyddiol. Gallai gynnwys data y gallwch ei ddefnyddio ac efallai hefyd y bydd adnoddau addysg sy’n rhoi gwybodaeth gefndir.
- Efallai hefyd y bydd gwefan y bwrdd croeso yn ardal y sefydliad yn darparu data am ymweliadau ag atyniadau yn yr ardal.
- Mae’n ddigon posibl y bydd arweinlyfrau ar-lein am ardal y sefydliad twristiaeth yn cynnwys rhyw wybodaeth am y sefydliad.
- Mae safleoedd adolygu fel Trip Advisor yn gwahodd pobl i sgorio eu profiadau. Mae’n ddigon posibl y ceir data defnyddiol yma.
- Gallai gweithredwyr teithiau gynnig teithiau sy’n cynnwys ymweliadau â’ch sefydliad dewisol.
- Efallai bydd myfyrwyr wedi astudio eich sefydliad dewisol yn rhan o’u cwrs gradd ac wedi postio eu gwaith ar-lein.
- Efallai bydd papurau newydd ar-lein yn cynnwys erthyglau a gwybodaeth arall mewn perthynas â’r sefydliad rydych yn ei astudio.
- Gallai YouTube gynnwys clipiau fideo wedi’u postio gan gwsmeriaid y sefydliad.
Gweithgaredd
Bydd angen i chi ddatblygu log o’r gwefannau yr ymwelwch â hwy a’r wybodaeth a gewch drwy fynd i bob safle. Gallai fod yn syniad da llunio a datblygu tabl, yn debyg i’r un isod, i wneud log neu gofnod o’ch chwiliadau.
- Dyddiad
- Enw’r wefan
- Data ansoddol a ganfuwyd
- Data meintiol a ganfuwyd
- Defnyddioldeb y wefan
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U1-3.1-Adnodd8.docx