Llwyddo ym maes ‘Profiad y Cwsmer’

MPA 3.1 Cynllunio offer ymchwilio

Rhoi’r cyfan ar waith

Rydym wedi edrych ar nifer o ffyrdd y gellir casglu data am brofiad y cwsmer yn eich sefydliad twristiaeth dewisol. Yr enw ar y gwahanol ffyrdd hyn yw offer ymchwilio.                 

Mae angen i chi benderfynu’n awr ar dri gwahanol offeryn ymchwilio a fydd yn briodol i gasglu data am brofiad y cwsmer yn eich sefydliad dewisol.            

Yn yr adran hon, rydym wedi ystyried:

  • Holiaduron   
  • Cwsmeriaid cudd
  • Cyfweliadau
  • Cyfrifiadau cerddwyr
  • Mapiau anodedig

Bydd angen i chi benderfynu gyda’ch athro neu athrawes p’un o’r rhain fydd fwyaf addas. Efallai y byddwch yn gweithio mewn tîm i lunio eich offer ymchwilio ac i gasglu eich data.