Mae pob sefydliad twristiaeth yn cael cwynion a rhaid i gyflogeion ryngweithio â chwsmeriaid i ymdrin â chwynion.
Weithiau, efallai bydd y cwsmer yn ddig neu’n ofidus wrth wneud ei gŵyn a bydd gwasanaeth cwsmeriaid da yn golygu gwrando ar y cwsmer a deall ei broblem.
Mae rhai cwynion yn llawer mwy difrifol nag eraill. Yn achos cwynion llai difrifol, efallai bydd ymddiheuro’n ddigon i wneud i’r cwsmer deimlo bod rhywun wedi gwrando arno. Mae gan y rhan fwyaf o sefydliadau twristiaeth weithdrefnau i ymdrin â chwynion mwy difrifol ac ymchwilio iddynt.
Nid y cwsmer sy’n iawn bob tro. Weithiau, efallai bydd y cwsmer yn cymryd arno fod y gŵyn yn fwy difrifol nag ydyw mewn gwirionedd, er mwyn cael rhyw fath o iawndal. Gall yr achosion hyn fod yn anodd i sefydliadau twristiaeth eu trin ac efallai bydd gofyn i uwch reolwr ymdrin â’r cwsmer.