Dull Cyflwyno

Rhestr wirio

Cynllunio’r holiadur

  • A ydych wedi cynllunio holiadur sy’n cynnwys nifer o gwestiynau agored a chaeedig? 
  • A oes digon o le i chi ysgrifennu sylwadau y bydd pobl yn eu gwneud mewn ymateb i gwestiynau agored?
  • A ydych yn siŵr nad oes unrhyw gamsillafu na chamgymeriadau atalnodi?
  • A wyddoch chi faint o bobl y byddwch yn eu holi gyda’ch holiadur? Sawl un fyddwch chi’n ei holi’n bersonol?
  • A ydych yn siŵr y gallwch gofnodi gwybodaeth bersonol heb ofyn cwestiynau personol i bobl?
  • A wyddoch chi sut byddwch yn defnyddio’r wybodaeth a gewch o’ch arolwg?          
  • A yw’ch holiadur yn cynnwys unrhyw gwestiynau arolwg canfyddiad?
  • A wyddoch sut byddwch yn defnyddio canlyniadau arolwg eich holiadur?