Dull Cyflwyno

Rhestr wirio

Ymchwil eilaidd

  • A ydych wedi gwneud ymchwil eilaidd i’ch sefydliad dewisol, gan ddefnyddio amrywiaeth o wefannau?
  • A ydych wedi creu log o’r safleoedd yr ymweloch â hwy a’r wybodaeth a gawsoch ohonynt?     
  • A wyddoch pa rai o’r safleoedd yr ymchwilioch iddynt oedd yn fwyaf defnyddiol a pha rai oedd yn llai defnyddiol?
  • A yw’ch ymchwil wedi’ch helpu i ddeall mwy am y sefydliad rydych yn ei astudio ac ansawdd profiad y cwsmer y mae’n ei ddarparu?                  
  • A wyddoch sut byddwch yn defnyddio’r wybodaeth hon yn eich adroddiad?