Rhaid i sefydliadau twristiaeth sicrhau y caiff eu holl gwsmeriaid eu trin yn gyfartal ac mae deddfau wedi’u derbyn i sicrhau y caiff pob cwsmer ei drin yr un fath. Enw’r ddeddf ddiweddaraf yw’r Ddeddf Cydraddoldeb.
Fodd bynnag, mae llawer o enghreifftiau lle nad all rhai cwsmeriaid ddefnyddio’r holl wasanaethau a chyfleusterau a ddarperir gan y sefydliad. Un enghraifft dda yw plant ifanc yn methu mynd ar y reidiau ‘gwyllt’ mewn parciau hamdden.
Mae rhai sefydliadau twristiaeth yn llunio’r hyn a elwir yn Ddatganiad Mynediad sy’n nodi sut gall y sefydliad helpu pobl sydd ag anableddau neu bobl y mae angen cymorth arbennig arnynt. Efallai hefyd y bydd yn rhoi gwybod i gwsmeriaid am broblemau y gallent ddod ar eu traws wrth ymweld â’r sefydliad. Mae hwn yn helpu i sicrhau y caiff pob cwsmer brofiad da gyda’r sefydliadau twristiaeth.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U1-1.1-Adnodd9.docx