Gweithgaredd 1
Ar ôl gwylio’r fideo yn dangos gwahanol fathau o iaith y corff, a allwch arddangos yn awr iaith y corff sy’n gadarnhaol ac yn negyddol?
Gweithiwch mewn parau neu grwpiau bach. Gadewch i un ohonoch fod yn gyflogai, a gweld a all weddill y grŵp ddyfalu pa agwedd y mae’n ceisio ei dangos. Efallai bydd y gronfa eiriau isod o gymorth.
- gwasanaethgar
- cyfeillga
- didaro
- ymosodol
- diflas
- gor-gyfeillgar
- haerllug
Gweithgaredd 2
Lluniwch ddwy sgript fer rhwng cwsmer a chyflogai mewn bwyty. Yn y naill sgript, mae’r cyflogai’n wasanaethgar ac yn y llall mae’r cyflogai’n llai gwasanaethgar.
Gweithgaredd 3
Astudiwch wefan gwesty lleol, gan edrych ar gyfleusterau a phrisiau’r gwesty. Pan fyddwch wedi gwneud hyn, gweithiwch gyda phartner i ddatblygu sgript ar gyfer sgwrs ffôn gyda chwsmer sy’n ffonio’r gwesty. Nid yw’r cwsmer yn siŵr pa fath o ystafell y bydd ei hangen arno ac nid yw’n gwybod dim am y gwesty.
Derbynnydd: Bore da, Gwesty’r Imperial
Cwsmer: Helo, mae angen i mi gadw ystafell ar gyfer dydd Mawrth nesaf. Rwyf bron yn 80 oed a dydw i ddim yn deall y peth rhyngrwyd yma. Byddaf yn mynd i angladd fy ffrind drannoeth.
Derbynnydd: ???.....
Gallech recordio’ch sgript.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U1-1.1-Adnodd3.docx