Rhoi’r cyfan ar waith – Eglurwch effeithiau gwasan
Byddwch bellach yn deall sut mae ystod o ffactorau’n effeithio ar y gwasanaeth cwsmeriaid a ddarperir gan sefydliad twristiaeth a bod yr effeithiau hyn yn gallu bod yn gadarnhaol neu’n negyddol.
Mae angen yn awr i chi allu egluro sut mae’r ffactorau a gyflwynwyd yn y gweithgareddau blaenorol yn effeithio ar wasanaeth cwsmeriaid.
Meddyliwch am sefydliad twristiaeth a astudiwyd gennych. Yn ôl pob tebyg, byddwch yn meddwl bod rhai agweddau ar y gwasanaeth cwsmeriaid yn dda, ac eraill yn wael.
Bydd angen i chi lunio adroddiad i egluro effeithiau gwasanaeth cwsmeriaid yn eich sefydliad twristiaeth dethol.
Gallech ysgrifennu pob brawddeg gan ddefnyddio’r gair oherwydd…
Er enghraifft: Mae’r gwasanaeth cwsmeriaid yn dda oherwydd bod yr holl staff wedi’u hyfforddi’n dda ac mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar y sefydliad.
Fodd bynnag, mae llawer o eiriau eraill y gallwch eu defnyddio yn ogystal ag ‘oherwydd’ i’ch helpu i egluro effeithiau gwasanaeth cwsmeriaid ar eich sefydliad dethol.
Gweithgaredd
Lluniwch eich adroddiad am effeithiau gwasanaeth cwsmeriaid mewn perthynas â’ch sefydliad dewisol, gan ddefnyddio rhai o’r geiriau a’r ymadroddion isod:
- o ganlyniad i
- cyhyd â bod
- o ystyried
- am y rheswm
- i’r graddau bod
- ar y sail
- gan fod
- o achos
- yn sgil
- drwy
- am fod
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U1-2.3-Adnodd7.docx