Mae cyfryngau yn cyfeirio at holl sianelau cyfathrebu ble caiff newyddion, adloniant, data neu negeseuon hyrwyddol eu rhannu. Mae cyfryngau yn cynnwys pob cyfrwng darlledu, fel papurau newydd, cylchgronau, teledu, radio, hysbysfyrddau, post uniongyrchol, ffôn, ffacs a’r rhyngrwyd.
Mae marchnata yn cynnwys hyrwyddo, gwerthu a dosbarthu cynhyrchion i dwristiaid, fel atyniadau llety a chyfleusterau.
Felly, yn yr adran hon, rydych chi am archwilio sut mae’r cyrchfan yn dylanwadu ar broses penderfynu twrist drwy gael y cynnyrch cywir i’r bobl gywir yn y lle cywir am y pris cywir drwy ddefnyddio hyrwyddiad.
Gweithgaredd
Ceisiwch hyn gyda phartner neu grŵp bach o gyd-ddisgyblion.
Meddyliwch am gynnyrch twristiaeth, e.e. tocyn i dreulio diwrnod yn Alton Towers. Cwblhewch y tabl, yna cymharwch eich ateb gyda gweddill y grŵp.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U3-2.1-Adnodd5.docx