Wrth ystyried dylanwadau ariannol, mae’n rhaid i chi ddeall bod twristiaid angen ystyried cost wirioneddol y gwyliau neu ymweliad dewisol. Mae twristiaid yn ystyried a oes gan y cyrchfan enw da o fod yn lle rhad i aros neu ymweld ag ef, neu a yw’n gyrchfan drud? Dylech chi feddwl fel hyn; os yw twrist mewn sefyllfa ariannol dda, ni fyddai gwyliau drud yn broblem, ond byddai gan deulu o 5 ag incwm gwario cyfyngedig syniadau eraill.
Ystyriaeth ariannol arall yw at bwy mae’r cyrchfan yn apelio; a yw’n gyrchfan marchnad dorfol neu’n gyrchfan pen ucha’r farchnad. Yn gyffredinol, mae cyrchfannau pen ucha’r farchnad yn atynnu pobl sydd gyda mwy o incwm gwario. Mae cyrchfannau marchnad dorfol fel arfer yn atynnu'r rheini sydd gyda llai o incwm gwario a llai o hyblygrwydd o ran amser, e.e. teuluoedd sy’n cael eu rheoli gan amserau gwyliau ysgol a llai o incwm, o bosib.
Yn olaf, bydd yn rhaid i chi ystyried llety; cost y llety yn benodol, gan fod hwn hefyd yn ffactor ariannol mae twristiaid yn ei ystyried cyn gwneud penderfyniadau terfynol. Heddiw, mae yna niferoedd helaeth o letyau ar gael, ac mae nifer o wefannau archebu ar-lein, fel Booking.com, Expedia a Traveloctiy yn cynnig dewis helaeth, fel arfer gyda phrisiau cystadleuol. Dylech chi werthfawrogi nad oes cymaint o dwristiaid yn dibynnu ar wyliau pecyn o asiantaeth gwyliau heddiw, ond yn hytrach, maen nhw’n hoff o archwilio’r farchnad i ddarganfod llety sy’n addas ar gyfer eu cyllideb. Mae hyn yn gallu amrywio o Wely a Brecwast i westyau moethus 5*, neu hyd yn oed 6*.
Faint mae’r gwyliau yn mynd i gostio?
Bydd cost gwyliau yn chwarae rôl allweddol ym mhenderfyniadau terfynol bydd llawer o dwristiaid yn eu gwneud.
Mae’n rhaid i lawer o dwristiaid feddwl am gost y gwyliau neu’r ymweliad, yn cynnwys
- Ydw i’n gallu fforddio mynd?
- A fydd gen i ddigon o arian i’w wario pan fydda i’n cyrraedd yno?
- A fydd y cyrchfan yn rhy ddrud ar fy nghyfer i?
- Oes opsiynau rhatach ar gael?
Gweithgaredd
Cyfrifwch gost y gwyliau canlynol:
- Mae pecyn gwyliau i deulu o 4, dau oedolyn a dau blentyn, yn hedfan o Faes Awyr Gatwick i Salou, Sbaen yn costio £375 i bob oedolyn, a £325 i bob plentyn.
- Mae taith hedfan ddwyffordd o Rufain, yr Eidal yn costio £79 y person gyda easyJet. Mae dau berson eisiau teithio, ac wedi archebu llety ar gyfer 3 noson; cyfanswm y gost yw £325. Cyfrifwch gost y teithiau hedfan a’r llety.
- Mae grŵp o 12 o fechgyn yn mynd i Gaeredin ar barti stag. Bydd y trenau yn costio £87 y person. Mae tacsis dwyffordd o’r orsaf drenau i’r gwesty yn costio £40 ar gyfer 4 person. Maen nhw’n aros mewn gwesty bach mewn ystafelloedd â dau wely, sy’n costio £245 yr ystafell ar gyfer yr arhosiad cyfan. Maen nhw naill ai yn gallu archebu hanner prydau (half board, sef gwely, brecwast ac un prif gwrs mewn gwesty) neu Wely a Brecwast. Byddai hanner prydau yn costio £75 y person, a Gwely a Brecwast yn costio £35 y person. Cyfrifwch gyfanswm gost y trip, ar gyfer y teithiau hedfan, tacsis a llety ar gyfer un person.
Mewn parau, trafodwch ba opsiwn rydych chi’n credu bydd y bechgyn yn dewis. Ysgrifennwch eich ateb ac eglurhad er mwyn cyfiawnhau eich ateb isod.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U3-2.1-Adnodd2.docx