Mae gan rwydweithiau cymdeithasol ddylanwad mawr ar broses penderfynu twrist, ac wedi profi cynnydd enfawr yn y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn oherwydd bod rhwydweithiau cymdeithasol yn ffordd o ddefnyddio cyfrifiadur i siarad gyda phobl eraill, mynegi barn, cyfnewid lluniau; beth bynnag rydych chi eisiau ei wneud.
Gweithgaredd 1
Pa wefannau rhwydweithiau cymdeithasol ydych chi’n fwyaf cyfarwydd â nhw o’r rhestr ganlynol?
- Trydar/Twitter
- Flickr
- Google +
Ar gyfer pob rhwydwaith cymdeithasol rydych chi’n ddefnyddio neu’n gyfarwydd â nhw, disgrifiwch pam eich bod yn eu defnyddio.
Gweithgaredd 2
Darllenwch yr wybodaeth isod.
- Dyma un o’r rhwydweithiau sy’n tyfu gyflymaf. Rydych yn dilyn pobl rydych chi’n eu hadnabod neu mae gyda chi ddiddordeb ynddyn nhw, maen nhw’n eich dilyn chi, rydych yn cyfnewid negeseuon cryno ar ffurf testun yn unig. Os ydych chi’n dweud rhywbeth diddorol, gall un o’ch dilynwyr fod wedi ei basio ymlaen, sy’n golygu ei ailadrodd gan ddweud pwy ddywedodd y neges yn wreiddiol. Felly, gall rhai o’u dilynwyr nhw ddechrau eich dilyn chi hefyd; dyma sut rydych chi’n cwrdd â phobl newydd. Mae’n wych ar gyfer gofyn cwestiynau cyflym, ac yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn wrth ddylanwadu ar ddewis twrist.
- Rydych yn cael tudalen ar y we ac yn gallu ei ddefnyddio ar gyfer pethau hirach. Gallwch chi uwchlwytho lluniau, fideos, chwarae gemau; beth bynnag rydych chi eisiau ei wneud. Mae yna raglenni i adolygu, ardaloedd ar gyfer negeseuon preifat ac ar gyfer trafodaethau mwy agored. Gall hwn wir fod eich lle chi ar y rhyngrwyd os hoffech iddo fod. Mae’n gallu bod yn ddefnyddiol iawn yn helpu a dylanwadu twrist wrth wneud penderfyniadau terfynol.
- Yn fath o rwydwaith cyfryngau cymdeithasol ond ar gyfer busnes. Mae hwn yn rhwydwaith er mwyn cysylltu gyda, a chadw mewn cyswllt gyda’ch cydweithwyr. Gallwch chi gysylltu gyda phobl sy’n ffrind i ffrind, neu’n ffrind i ffrind i ffrind, ac yn y blaen.
- Does dim gymaint o gyfle i gymdeithasu yma, ond gallwch chi uwchlwytho a rhannu lluniau rydych chi eisiau i bobl eraill eu gweld. Gallwch chi hefyd lawrlwytho, ac weithiau defnyddio lluniau ar wefannau, gan fod llawer o bobl yn eu rhoi i fyny heb lawer o gyfyngiadau hawlfraint.
- Mae’n dal yn ddyddiau cynnar iddo fel cystadleuydd i’r ddau brif rwydwaith cymdeithasol. Mae’r rhwydwaith yn eich caniatáu i roi eich cymdeithion mewn “cylchau” ar wahân, fel bod modd i chi bostio rhywbeth i’ch ffrindiau gorau nad ydych chi eisiau i’ch cydweithwyr ei weld.
Allwch chi adnabod y rhwydweithiau cymdeithasol sy’n cael eu disgrifio uchod? Byddan nhw’n un o’r canlynol:
- Trydar
- Flickr
- Google +
Gweithgaredd 3
Eglurwch sut mae cyrchfan twristiaeth y DU yn gallu defnyddio cyfryngau cymdeithasol er mwyn atynnu mwy o ymwelwyr.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U3-2.1-Adnodd7.docx