Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

MPA 2.1

Nodweddion cyrchfan

Beth sy’n gwneud cyrchfan yn boblogaidd? Mewn gwirionedd, mae’n dibynnu ar beth sydd ganddo i’w gynnig i dwrist; mae gan dwristiaid amrywiaeth eang o anghenion.

Ar gyfer yr adran hon, byddwn yn edrych ar y nodweddion cyrchfan canlynol

  • Atyniadau naturiol
  • Atyniadau adeiledig dros amser
  • Atyniadau wedi’u hadeiladu’n bwrpasol

Dyma’r nodweddion sy’n cyfrannu’n sylweddol i boblogrwydd cyrchfan.

Gweithgaredd 1

Edrychwch ar y delweddau isod, cysylltwch pob atyniad gyda’r nodwedd gywir.

Gweithgaredd 2

Mae’r holl atyniadau yng Ngweithgaredd 1 i’w gweld yng Nghymru. Mae yna nodweddion cyrchfan tebyg i’w gweld mewn atyniadau eraill yn y DU.

Ceisiwch weld os allwch chi greu tabl o atyniadau tebyg mewn atyniadau poblogaidd arall i dwristiaid yn y DU. Efallai eich bod eisiau cynnal eich gwaith ymchwil gyda chyd-ddisgybl.

Defnyddiwch y Rhyngrwyd i’ch helpu chi. Gwnewch nodiadau a chadwch ddelweddau wrth i chi ymchwilio.

Gweithgaredd 3

Paratowch gyflwyniad PowerPoint ar atyniad twristiaeth o’ch dewis chi o’ch nodiadau yng ngweithgaredd 2  a fydd yn disgrifio’r amrywiaeth o nodweddion cyrchfan sydd i’w gweld yno. Cyflwynwch eich darganfyddiadau i weddill eich dosbarth.