Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

MPA 2.1

Marchnata cyrchfan

Rydych chi’n mynd i archwilio sut mae adrannau marchnata cyrchfan yn ceisio dal sylw cynulleidfaoedd darged drwy ddefnyddio sloganau, dylunio deunydd pacio, cefnogaeth pobl enwog a sylw yn y cyfryngau cyffredinol.

Mae llawer o dwristiaid yn mynd ar-lein er mwyn darganfod llefydd maen nhw’n bwriadu ymweld â nhw, archebu ystafelloedd mewn gwesty a thrafnidiaeth. Maen nhw’n cynllunio tripiau ac yn rhannu eu teimladau a’u hatgofion gyda’u ffrindiau. Mae marchnata cyrchfan yn hanfodol er mwyn i gyrchfannau barhau yn gystadleuol.

Gweithgaredd 1

Sut mae gwefan cyrchfan yn dylanwadu ar benderfyniad twrist? – Mae’r cyfan yn ymwneud  â’r ffordd mae’n hyrwyddo ei hunan!

Archwiliwch wefan atyniad twristiaeth yn y DU.

Edrychwch yn ofalus ar sut mae gwefan eich atyniad dewisol wedi cael ei dylunio.

Ceisiwch adnabod geiriau, ymadroddion a delweddau sy’n cael eu defnyddio i hyrwyddo’r cyrchfan.

Eglurwch pam fod y geiriau, ymadroddion a delweddau yn effeithiol yn hyrwyddo’r atyniad.

Gweithgaredd 2

Trefnwyr teithiau

Mae angen i chi ddeall bod trefnwyr teithiau yn creu gwefannau sy’n hyrwyddo’r gwyliau i gyrchfannau maen nhw’n gwerthu. Mae twristiaid yn gallu mewngofnodi i’w porwr rhyngrwyd a lleoli eu cyrchfan dewisol o gysur eu cartref eu hunain.

Allwch chi adnabod enwau'r trefnwyr teithiau canlynol yn y chwilair isod?

Trefnwyr teithiau

travel.png

Gweithgaredd 3

Dewiswch ddau neu fwy o’r trefnwyr teithiau sydd i’w gweld yn y delweddau uchod.

Chwiliwch amdanyn nhw ar y rhyngrwyd – beth ydych chi’n feddwl? Da? Gwael? Rhowch resymau i gefnogi eich ateb, ceisiwch ddefnyddio ymadroddion gwahanol.

Gweithgaredd 4

Mae llawer o dwristiaid yn mynd ar-lein er mwyn darganfod llefydd maen nhw’n bwriadu ymweld â nhw, archebu ystafelloedd gwesty a thrafnidiaeth. Maen nhw’n cynllunio tripiau ac yn rhannu eu teimladau a’u hatgofion gyda’u ffrindiau. Mae marchnata cyrchfan yn hanfodol er mwyn i gyrchfannau barhau yn gystadleuol.

Rydych chi’n drefnydd teithiau sy’n ymchwilio cyrchfan ble gall twristiaid fynd i ymweld ag ef.

Dewiswch gyrchfan yn y DU yr ydych eisiau ymchwilio iddo. Gan ddefnyddio’r rhyngrwyd, ymchwiliwch eich cyrchfan er mwyn darganfod trafnidiaeth o gwmpas y cyrchfan, llety addas a phethau i’w gwneud pan mae twristiaid yno.

Paratowch bamffled i hyrwyddo eich cyrchfan dewisol a fydd yn annog twristiaid i ymweld ag ef. Meddyliwch am eich marchnad darged.